Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn bwriadu gwneud buddsoddiad yng Nghaernarfon drwy sefydlu canolfan manwerthu fwy a hwb cymunedol arfaethedig.

Mae'r Elusen sy'n achub bywydau wedi cymryd prydles hen safle Argos ym Mhenllyn yn y dref. Bydd yr adeilad deulawr yn cynnig ardal manwerthu fawr i gwsmeriaid a bydd y gofod ychwanegol ar y llawr cyntaf yn galluogi'r Elusen i greu ystafelloedd cyfarfod ac ardaloedd cymunedol ar gyfer cyflogeion a'r gymuned ehangach. Mae'r Elusen hefyd yn ystyried agor bar coffi bychan a fydd yn ychwanegiad i'w chaffi mwy ym Maes Awyr Caernarfon.

Bydd y safle newydd yng Nghaernarfon yn hwb i weithrediadau manwerthu'r Elusen yng ngogledd orllewin Cymru. Bydd ei hygyrchedd yn golygu y daw’n ganolfan rhoddion cyhoeddus, gyda chyfleusterau storio a mynediad i gerbydau a fydd yn caniatáu iddi wasanaethu siopau Ambiwlans Awyr Cymru eraill yn y rhanbarth.

Dywedodd David Williams, Rheolwr Siop yr Elusen yng Nghaernarfon: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i'n Helusen ac i gymuned Caernarfon a thu hwnt. Bydd yr adeilad mwy o faint yn ein galluogi i dderbyn a gwerthu eitemau mwy o faint sy'n cael eu rhoi i ni, megis dodrefn. Byddem hefyd yn gallu croesawu ein cefnogwyr, gwirfoddolwyr a'r gymuned ehangach a fydd yn gallu cyfarfod yn ein gofodau cymunedol.

“Yn bwysicaf oll, bydd y cyfleuster yn chwarae rôl allweddol yn codi'r arian sydd ei wir angen arnom i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Yn ein hardal ni, yng Ngwynedd, gwnaethom ymateb i 225 o argyfyngau peryglu bywydau neu achosi anafiadau difrifol yn ystod 2021.”

Mae Caernarfon wedi cael ei dewis fel y lleoliad cyntaf yng Nghymru i'w ddatblygu fel rhan o gynllun manwerthu newydd yr Elusen, sydd wedi ei lywio gan adborth gan gyflogeion, cefnogwyr a gwirfoddolwyr a gasglwyd yn ystod adolygiad strategol diweddar.

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Drwy ein harolygon, dywedodd ein cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr wrthym mai cryfder ein helusen yw ei ffocws ar gymuned. Fel sefydliad a gafodd ei greu gan bobl Cymru ar gyfer pobl Cymru, rydym wedi ymgorffori ein hunain o fewn cymunedau ledled y wlad. Mae ein siopau yn fwy na chanolfannau manwerthu, maent yn rhan o'r cymunedau maent yn eu gwasanaethau. Mae hyn yn rhywbeth mae pobl eisiau i ni barhau gydag a'i gryfhau, ac mae wedi dod yn ganolbwynt i'n strategaeth newydd.”

Nod cynllun manwerthu newydd Ambiwlans Awyr Cymru yw sicrhau cydbwysedd rhwng creu incwm ar gyfer ei gwasanaeth sy'n achub bywydau, gan gynyddu presenoldeb yr Elusen yn y gymuned ledled y wlad ar yr un pryd.

Ychwanegodd Dr Barnes: “Mae ein Helusen wedi cael cydberthynas hirhoedlog â Chaernarfon ac mae rhwydwaith anhygoel o wirfoddolwyr a chefnogwyr brwdfrydig yn y rhanbarth. Dyma pam mai'r dref fydd yr ardal gyntaf a fydd yn arwain y ffordd i wireddu ein cynllun manwerthu. Daw'r safle yn ganolbwynt i Ambiwlans Awyr Cymru yng ngogledd orllewin Cymru, ac rydym yn gobeithio y daw yn ofod amlddefnydd er budd y gymuned.

“Mae popeth a wnawn wedi ei wreiddio ar sicrhau y cawn ein gyrru gan bobl Cymru a'u hanghenion. Mae gennym ddyletswydd i wneud y defnydd gorau o'r nwyddau sy'n cael eu rhoi i ni gan ddefnyddio'r arian hwnnw i ddarparu'r gwasanaeth brys mwyaf effeithiol posib i'n gwlad.”

Rhagwelir y bydd y cyfleuster newydd yn agor yn ddiweddarach eleni. Tan hynny, bydd yr Elusen yn parhau i weithredu o'n siop bresennol ar y Stryd Fawr. 

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion brys yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae'r gwasanaeth brys 24/7 yn cynnig gofal critigol uwch a gaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.