Yn dilyn llwyddiant ysgubol her Cerdded Cymru rithwir y llynedd, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn falch o roi cyfle i gyfranogwyr gymryd rhan unwaith eto.

Y llynedd, yn ystod y cyfyngiadau symud, gwisgodd mwy na 500 o bobl eu hesgidiau cerdded am eu traed i gymryd rhan yn her rithwir Cerdded Cymru – gan godi swm anhygoel o  £32,000 . 

Y thema eleni yw ‘cestyll’, ac mae'n cynnwys castell I'm a Celebrity Get me Out of Here, sef Castell Gwrych.

Mae'r her yn rhoi cyfle i gerddwyr osod targed iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar nifer y camau y gallent eu cyflawni dros gyfnod o fis o gysur eu cartrefi.Mae pob targed gyfwerth â thaith gerdded rhwng cestyll enwog Cymru a gellir cyflawni hyn gartref, yn yr ardd neu wrth wneud ymarfer corff, wrth fynd â'r ci am dro - a hyd yn oed mynd i fyny ac i lawr y grisiau! 

Mae’r dewisiadau fel a ganlyn: 

 

  • Castell Dinas Bran i Gastell Caergwrle: 16 milltir (36,000 o gamau)

 

  • Castell Caernarfon i Gastell Gwrych: 35 milltir (80,000 o gamau)

 

  • Castell Carreg Cennen i Gastell Penfro: 50 milltir (114,000 o gamau)

 

  • Castell Caerffili i Gastell Llansteffan: 75 milltir (171,500 o gamau)

 

  • Castell Powys i Gastell Cydweli: 100 milltir (229,000 o gamau)

 

  • Castell Harlech i Gastell Caerdydd: 150 milltir (343,000 o gamau)

Bydd yr her yn digwydd yn ystod mis Mehefin ac mae'n costio £10 i gofrestru. Fodd bynnag, anogir cyfranogwyr i greu eu tudalen codi arian eu hunain. Mae Cerdded Cymru yn galluogi cyfranogwyr i gerdded y pellter cyfatebol rhwng rhai o gestyll prydferth Cymru yn rhithwir. 

Roedd 90 y cant o'r cyfranogwyr a gymerodd ran yn her Cerdded Cymru gyntaf erioed Ambiwlans Awyr Cymru yn codi arian i'r Elusen am y tro cyntaf.

Dangosodd llawer o bobl, rhwng dwy a 94 oed, eu cefnogaeth i'r elusen sy'n achub bywydau drwy godi arian.  

Cymerodd Evie Jameson, sy'n ddwy oed ac a gafodd driniaeth a achubodd ei bywyd gan feddygon Ambiwlans Awyr Cymru ym mis Mawrth 2020, ran yn yr her 15 milltir a chodi £2,711.  Dywedodd ei mam falch, Jessica: “Roedd angen cymorth yr ambiwlans awyr arnom i achub bywyd ein merch fach, a gwnaethant lwyddo i wneud hynny. Heb yr hofrennydd a'r pedwar meddyg anhygoel a'i helpodd, ni fyddai Evie gyda ni heddiw.’’

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “Roedd her Cerdded Cymru Rithwir 2020 yn llwyddiant ysgubol. Mae'r ffaith bod £32,000 wedi cael ei godi mewn dim ond mis yn anhygoel, ond mae'n fwy arbennig byth i glywed bod 90 y cant o'r bobl a gymerodd ran yn codi arian i ni am y tro cyntaf.    

“Hoffem i'n cefnogwyr wisgo eu hesgidiau cerdded unwaith eto a chymryd rhan yn her eleni, yn enwedig ym mlwyddyn ein pen-blwydd yn 20 oed. Mae Cerdded Cymru yn ddigwyddiad codi arian perffaith i bobl o bob oed a gall y cyfranogwyr osod targed iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar nifer y camau y maent yn credu y gallant eu cyflawni.

“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb, ond gall canolbwyntio ar her newydd, neu ddysgu sgìl newydd, ein helpu i gadw'n llawn cymhelliant wrth i ni symud tuag at gyfnod mwy cadarnhaol yn y dyfodol.”

Bydd pob cyfranogwr yn cael medal gynaliadwy wedi'i chreu yn lleol ac e-dystysgrif am ei ymdrechion.

Mae'r Elusen yn cynnig i ysgolion a grwpiau ieuenctid gofrestru am ddim i gymryd rhan yn Cerdded Cymru eleni.

Mae'n bwysig dilyn canllawiau'r Llywodraeth wrth ymgymryd â'r her hon. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer Cerdded Cymru, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com/cerddedcymru2021