Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn falch iawn o glywed mai hi fydd prif fuddiolwr Cyngerdd Elusennol yr Hydref Clwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf yn Theatr y Follies, Folly Farm ar y 9fed o Hydref.

Dywedodd Katie Macro, cydgysylltydd codi arian cymunedol AAC: “Rwyf wrth fy modd y bydd y Cyngerdd Elusennol Mawreddog, a gafodd ei ohirio'r llynedd, yn cael ei gynnal fis nesaf. Bydd y gynulleidfa'n cael gwledd o gerddoriaeth glasurol gan y cantorion pop-glasurol Richard ac Adam, ynghyd â Chôr Meibion Hendy-gwyn ar Daf ac yn mwynhau amrywiaeth o ddoniau lleol hefyd. Bydd yn noson wych”.

“Diolch i Glwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf am godi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r Elusen yn ymateb i argyfyngau sy'n peryglu bywyd ac yn achosi anafiadau gwael yn rheolaidd yn ardal Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae digwyddiadau elusennol o'r fath yn codi arian hollbwysig i sicrhau y gall ein gwasanaeth pwysig barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”

Ariennir Elusen Ambiwlans Awyr Cymru gan bobl Cymru. Mae'r Elusen yn gweithredu rhai o'r ambiwlansys awyr mwyaf blaenllaw yn y DU, gan arbed amser gwerthfawr ac achub bywydau – diolch i bobl Cymru.

Mae'r Elusen yn dibynnu'n gyfan gwbl ar eich rhoddion elusennol i godi £8 miliwn bob blwyddyn i sicrhau y gall ein hofrenyddion barhau i hedfan ledled Cymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi cwblhau 40,000 o alwadau ers ein sefydlu ugain mlynedd yn ôl, ac mae ar alw 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Maent yno ar gyfer pobl Cymru pryd bynnag a lle bynnag y bydd angen help arnynt.

Dywedodd y Rotariad John Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Codi Arian Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf yr wythnos hon, “Rydym wrth ein bodd bod ein cyngerdd eleni yn codi arian ar gyfer elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed”. “Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at noson gofiadwy, ac at weld pob un ohonoch chi yno”.

Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd, sydd yn bendant yn mynd i fod yn boblogaidd, nawr ar werth ac ar gael ar-lein ar www.nwrotary.co.uk a hefyd ar gael i'w prynu ag arian mewn amryw o siopau lleol, Siop Gerddoriaeth Dales, Dinbych y Pysgod; Rock 'n Rolla Boutique, Arberth a Yje Creative Cafe, Stryd Fawr, Hwlffordd. Maent hefyd ar gael gan Huw Jones, aelod o Gôr Meibion Hendy-gwyn ar Daf.

Mae Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf yn hynod ddiolchgar i'w prif noddwyr – Powells Cottage Holidays o Saundersfoot, Gravells Kia o Arberth, ac wrth gwrs Folly Farm, am gynnal y digwyddiad. Mae'r tri wedi bod yn cefnogi'r Rotari ers amser maith, ac meddai'r Llywydd Elaine Bradbury yr wythnos hon “Mae Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth barhaus”.