Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr sy'n achub bywydau yng Nghymru wedi ennill dwy o'r prif wobrau yng ngwobrau blynyddol Air Ambulance Awards of Excellence.

Cafodd y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) a'i bartneriaid, sef Elusen Ambiwlans Awyr Cymru eu henwebu ar gyfer tri chategori yn y digwyddiad a drefnwyd gan Ambiwlans Awyr y DU - y sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi gwaith 21 o elusennau ambiwlans awyr yn y DU.

Yn ystod seremoni a gynhaliwyd yng nghartref tîm pêl-droed Reading neithiwr (Dydd Iau, 30 Tachwedd), enillodd y gwasanaeth y gwobrau Staff Cymorth Gweithrediadau y Flwyddyn a Digwyddiad Arbennig y Flwyddyn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS, David Lockey: “Unwaith eto, mae talentau ein staff ac ansawdd ein gwasanaeth wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol ac mae'r gwobrau yn gwbl haeddiannol.

“Maent yn cydnabod arbenigedd, proffesiynoldeb ac ymroddiad nid yn unig ein clinigwyr medrus iawn, ond hefyd y timau sy'n eu cefnogi, o'r Hwb Gofal Critigol a'r cymorth logistaidd a gweinyddol i'n rhanddeiliaid a'n partneriaid, sef Ambiwlans Awyr Cymru.

“Rydym yn falch bod pob un ohonynt yn gweithio i EMRTS”.

Ychwanegodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn falch iawn o'n cydweithwyr EMRTS bob amser. Mae'r tîm meddygol a'r criw hedfan yn darparu gofal eithriadol ledled y wlad bob dydd ac yn cael eu cefnogi gan arbenigedd y rhai sy'n cydlynu ein gwasanaeth o'r Hwb Gofal Critigol.

“Rydym wrth ein bodd bod hyn wedi cael ei gydnabod gan y gymuned ambiwlans awyr a llongyfarchiadau i bob un a enillodd wobr. Mae'n gyfle i werthfawrogi eu hymroddiad yn llawn ac i ddiolch i gefnogwyr ein Helusen sy'n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth hollbwysig yng Nghymru.”

Greg Browning, rheolwr Hwb Gofal Critigol EMRTS, oedd enillydd y categori Cymorth Gweithrediadau. Cafodd ei enwebu gan gydweithwyr am ei wasanaeth rhagorol ac ardderchog.

Mae'r Hwb, sydd wedi'i leoli yng Nghwmbrân, yn ganolog i wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru. Fel gwasanaeth sy'n gweithredu bob awr o bob dydd, mae dyrannwr / anfonwr ac ymarferydd gofal critigol yn monitro pob galwad 999 a wneir i Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac yn nodi lle mae angen ymyriad gofal critigol cynnar cyn anfon yr adnodd Ambiwlans Awyr Cymru mwyaf priodol.

Mae Greg yn gyfrifol am y gwaith rheoli cymhleth o wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn rhedeg yn ddidrafferth, ac ers ymuno â'r gwasanaeth yn 2015, bu'n aelod allweddol o'r tîm.

Wrth sôn am ei wobr, dywedodd: “Rwyf wrth fy modd. Dyma'r tro cyntaf i mi gael fy enwebu am wobr, heb sôn am ennill, ac mae'n un o gyflawniadau gorau fy ngyrfa heb os nac oni bai.

“Mae gwybod bod fy nghydweithwyr wedi bod wrthi'n fy enwebu ar gyfer y wobr hon yn anrhydedd mawr ac yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori. Gwnaeth pob un a oedd yn eistedd o amgylch y bwrdd ddechrau bloeddio pan enillais, sy'n parhau'n deimlad swreal. Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfleoedd y mae EMRTS ac Ambiwlans Awyr Cymru wedi eu rhoi i mi bob dydd, ac mae'r wobr hon yn goron ar bopeth.”

Enillodd meddygon EMRTS y Wobr am Ddigwyddiad Arbennig y Flwyddyn am eni gefeilliaid cynamserol yn y cartref.

Cafodd dau griw EMRTS mewn cerbydau ymateb cyflym Elusen Ambiwlans Awyr Cymru eu hanfon gan Tom Archer, Ymarferydd Gofal Critigol a Katie Manson, Anfonwr Cymorth Critigol yn yr Awyr, at fenyw a oedd yn ei chyfnod esgor yn ystod wythnos 24 ei beichiogrwydd.

Gan fod yr efeilliaid yn cael eu geni mor gynnar, roedd y siawns y byddent yn goroesi yn isel iawn.

Daeth yr Ymarferwyr Gofal Critigol, Josh Eason, Elliott Rees a Marc Frowen a'r Ymgynghorydd Gofal Critigol Dr Laura Owen â'r efeilliaid i'r byd a darparu ymyriad gofal critigol uwch mewn amgylchiadau heriol, gyda chymorth gan Dr Matt O’Meara, y prif ymgynghorydd cyflenwi.

Roedd yn rhaid i'r tîm gyflawni proses mewndiwbio ac awyru mecanyddol anodd iawn a rhoi meddyginiaeth achub bywyd. Er yr amodau, cafodd yr efeilliaid eu sefydlogi a'u trosglwyddo'n ddiogel i'r uned newyddenedigol agosaf. Er gwaethaf yr her, gwnaeth un o'r efeilliaid oroesi oherwydd y gofal uwch a ddarparwyd.

Gan siarad ar ran y tîm, dywedodd yr Ymarferydd Gofal Critigol, Josh Eason, fod y gwobrau yn dyst i'r gwaith y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei gyflawni'n ddyddiol.

Dywedodd: “Roedd y digwyddiad yn arbennig ac roedd yr awyrgylch yn anhygoel. Roedd yn hyfryd cael dathlu llwyddiannau pob un o'n cydweithwyr o bob elusen ambiwlans awyr ledled y DU a dod at ein gilydd fel un tîm mawr. Mae pob un ohonom yn falch iawn o ennill ein gwobrau ac roedd yn anrhydedd cael ein henwebu a'n cynnwys ar y rhestr fer yn erbyn elusennau ambiwlans awyr talentog a haeddiannol iawn.

“Mae pob un ohonom yn enillwyr yn ein rhinwedd ein hunain ac rydym wedi ein syfrdanu ond yn hynod ddiolchgar o dderbyn ein gwobr. Mae'r tîm wrth ei fodd ac yn hynod o falch. Dangosodd pob un yn ein categori y gwaith anhygoel y mae timau'r ambiwlans awyr yn ei gyflawni a'r gwir fuddiannau o ddarparu gofal critigol i gleifion.

“Mae'r gwobrau yn gyfle i fyfyrio ar y gwaith y mae elusennau ambiwlans awyr yn ei gyflawni ac i dynnu sylw at y nodweddion cadarnhaol a'r cyflawniadau ac mae'n enghraifft wych o'r rheswm pam ein bod yn gwneud y gwaith hwn.”       

Cafodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Mark Winter ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Cyflawniad Oes am yrfa hir a nodedig yn hwb EMRTS hefyd. Mark yw'r un sy'n uno'r sefydliad o hyd ac mae bob amser yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y sefydliad yn gweithredu a bod yr aelodau'n ddiogel ac y gofelir amdanynt yn dda.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Yn aml, caiff y Gwasanaeth ei ddisgrifio fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, ond gall hefyd ddarparu gofal o'r un safon ar y ffordd drwy ei fflyd o gerbydau ymateb cyflym.

Darperir y gwasanaeth 24/7 hwn drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ymroddedig yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.