Cyhoeddwyd: 09 Chwefror 2024

Mae'n bleser gan Ambiwlans Awyr Cymru gyhoeddi ei bod am agor hwb cymunedol newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bydd agor y siop newydd yn rhan o lasbrint manwerthu'r Elusen, yn dilyn adborth gan ein cyflogeion, ein cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr a gasglwyd yn ystod adolygiad strategol yr Elusen. 

Nid yw'r dyddiad agor wedi'i gadarnhau, ond disgwylir i'r cyfleuster newydd agor yn gynnar yn y gwanwyn.

Mae grŵp prosiect wedi cael ei sefydlu ac maent yn anelu at ddarparu gwasanaeth a fydd yn cwmpasu Y Fenni a'r cyffiniau.

Byddai'r safle mawr yn hwyluso'r gallu i ollwng rhoddion, darparu warws i brosesu rhoddion, cyfleusterau storio, gofod mawr ar gyfer siop a mynediad i gerbydau a fydd yn caniatáu iddi wasanaethu siopau eraill Ambiwlans Awyr Cymru yn y rhanbarth. Bydd ystafell hyfforddi yno hefyd.

Bydd y siop newydd, sydd wedi'i lleoli ar Stryd y Farchnad, yn dilyn llwyddiant yr hybiau cymunedol newydd yng Nghaernarfon a'r Wyddgrug.

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'n bleser gennym agor ein hwb cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dilyn llwyddiant y rhai yng Nghaernarfon a'r Wyddgrug. Bydd y lleoliad mawr yn ein galluogi i stocio hyd yn oed mwy o eitemau a chreu amgylchedd siopa newydd a braf i'n cefnogwyr.   

“Yn bwysicaf oll, bydd y rhoddion a'r gwerthiannau o'r siop yn chwarae rôl allweddol yn codi'r arian sydd ei wir angen arnom i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau.” 

Ychwanegodd Dr Barnes: “Drwy ein harolygon, dywedodd ein cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr wrthym mai cryfder ein Helusen yw ei ffocws ar y gymuned. Fel sefydliad a gafodd ei greu gan bobl Cymru ar gyfer pobl Cymru, rydym wedi ymgorffori ein hunain o fewn cymunedau ledled y wlad. Mae ein siopau yn fwy na chanolfannau manwerthu, maent yn rhan o'r cymunedau maent yn eu gwasanaethau. Mae hyn yn rhywbeth mae pobl eisiau i ni barhau gydag a'i gryfhau, ac mae wedi dod yn ganolbwynt i'n strategaeth newydd.”  

Gyda'r siop yn agor ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd yr Elusen yn chwilio am weithwyr a gwirfoddolwyr newydd i ymuno â'r tîm. Bydd y cyfleoedd swyddi hyn yn cael eu hyrwyddo ar wefan a chyfryngau cymdeithasol yr Elusen. 

Dywedodd Rob Coles, Pennaeth Manwerthu Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous i Ambiwlans Awyr Cymru ac i gymuned Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt. Bydd yr adeilad mwy o faint yn ein galluogi i dderbyn a gwerthu eitemau mwy o faint sy'n cael eu rhoi i ni, megis dodrefn. Byddem hefyd yn gallu croesawu ein cefnogwyr, gwirfoddolwyr a'r gymuned ehangach a fydd yn gallu cyfarfod yn ein gofodau cymunedol. 

“Yn bwysicaf oll, bydd y cyfleuster yn chwarae rôl allweddol yn codi'r arian sydd ei wir angen arnom i gynnal ein gwasanaeth sy'n achub bywydau ledled Cymru.”

Nod cynllun manwerthu newydd Ambiwlans Awyr Cymru yw sicrhau cydbwysedd rhwng creu incwm ar gyfer ei gwasanaeth sy'n achub bywydau, gan gynyddu presenoldeb yr Elusen yn y gymuned ledled y wlad ar yr un pryd.  

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.