Mae Ambiwlans Awyr Cymru ar y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol mewn dau gategori yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ambiwlans Awyr eleni.

Wedi'i drefnu gan Air Ambulances UK, mae'r gwobrau blynyddol yn dathlu ac yn cydnabod y sgiliau gofal critigol arbenigol sy'n achub bywydau ac ymrwymiad y rhai sy'n gweithio'n ddiflino o fewn y gymuned ambiwlans awyr. Caiff y seremoni eleni ei chyflwyno gan y darlledwr Hayley McQueen a bydd yn digwydd yn Stadiwm Select Car Leasing yn Reading ar 30 Tachwedd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr – Staff Cymorth Gweithrediadau y Flwyddyn a Digwyddiad Arbennig y Flwyddyn.

Caiff y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y  Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Ar restr fer categori ‘Staff Cymorth Gweithrediadau y Flwyddyn’ mae Rheolwr Hwb Gofal Critigol EMRTS, Greg Browning. Cafodd ei enwebu gan ei gydweithwyr am ei wasanaeth rhagorol, eithriadol.

Mae Hwb Gofal Critigol EMRTS, wedi'i leoli yng Nghwmbrân, wrth wraidd gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru. Yn gweithredu 24/7, bydd dyrannwr ac ymarferydd gofal critigol yn monitro pob galwad 999 a wneir i Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac yn nodi lle y bydd angen ymyrraeth gofal critigol cyn anfon yr adnodd Ambiwlans Awyr Cymru mwyaf addas.

Mae Greg yn gyfrifol am y gwaith rheoli cymhleth o wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn rhedeg yn ddidrafferth, ac ers ymuno â'r gwasanaeth yn 2015, bu'n aelod allweddol o'r tîm.

Dywedodd Mark Winter, Cyfarwyddwr Gweithrediadau EMRTS: “Mae'r Hwb yn rhan hanfodol o wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru ac, ers iddo ddechrau yn 2015, mae Greg wedi helpu gyda'i roi ar waith a hyfforddi'r staff. Mae'n cymryd ei swydd o ddifrif ac yn rhoi cleifion a staff wrth wraidd popeth a wnaiff. 

“Mae angen i ni drysori pobl fel Greg gan fod y staff nad ydynt yn wynebu'r cleifion yn gwneud gwahaniaeth sylweddol, ac ni ellir anghofio hyn. Mae ei weithredoedd a'i alluoedd yn hynod bwysig i'n cymunedau ac mae'n aelod allweddol o'r sefydliad.” 

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'r gwaith a wneir gan yr Hwb Gofal Critigol yn ardderchog ac mae'n hanfodol i'n llwyddiant fel gwasanaeth. Mae eu galwadau a'u hasesiadau barn dyddiol yn dibynnu ar brofiad ac ar reddfau crefftus. 

“Mae cyfraniad Greg at yr Hwb a'i ddatblygiad wedi helpu i wneud ein gwasanaeth yr hyn yr ydyw heddiw.”

Nid oedd Greg yn ymwybodol bod ei gydweithwyr wedi ei enwebu ar gyfer gwobr a chafodd sioc o glywed y newyddion. Dywedodd: “Allwn i ddim siarad.

“Yn ddi-os, dyma eiliad mwyaf balch fy holl yrfa. Mae gwybod bod fy nghydweithwyr wedi dewis fy enwebu ar gyfer y wobr hon yn rhywbeth y byddaf yn trysori am weddill fy oes. Rwy'n ddiolchgar bob dydd am y cyfleoedd y mae EMRTS ac Ambiwlans Awyr Cymru wedi'u cyflwyno i mi, ac yn syml iawn, mae hyn yn goron ar bopeth.”

Mae'r Elusen sy'n achub bywydau hefyd ar restr fer Digwyddiad Arbennig y Flwyddyn am esgor ar efeilliaid a anwyd yn gynnar dros ben mewn amgylchedd cyn mynd i'r ysbyty.

Y llynedd, anfonwyd dau griw EMRTS yng ngherbydau ymateb cyflym Ambiwlans Awyr Cymru, gan yr Ymarferydd Gofal Critigol, Tom Archer a'r Dyrannwr Cymorth Awyr Critigol, Katie Manson, at ddynes mewn cyfnod esgor babanod 24 wythnos oed yn unig. 

Gan fod yr efeilliaid mor ifanc, ac yn pwyso tua 500 gram, roedd y tebygolrwydd o fyw yn hynod isel. 

Aeth yr Ymarferwyr Gofal Critigol Josh Eason, Elliott Rees, Mark Frowen a'r Cynghorydd Gofal Critigol Dr Laura Owen, y tu hwnt i'r disgwyl i esgor yr efeilliaid a rhoi ymyrraeth gofal critigol uwch mewn amodau heriol. Roedd yr argyfwng yn cynnwys prosesau hynod anodd o osod tiwbiau, gosod peiriant anadlu mecanyddol a rhoi meddyginiaeth sy'n achub bywyd.

Er yr amodau, cafodd yr efeilliaid eu sefydlogi a'u trosglwyddo'n ddiogel i'r uned newyddenedigol agosaf. Yn anffodus, er ymdrechion gorau'r tîm, bu farw un o'r efeilliaid yn yr ysbyty.

Dywedodd Dr Sue Barnes: “Roedd hon yn alwad hynod anghyffredin a heriol dros ben i'r timau ond gwnaethant bob ymdrech i roi'r cyfle gorau posibl i'r babanod oroesi. Cafodd y criw eu canmol gan neonatolegydd yr ysbyty am safon y gofal a roddwyd, yn enwedig oherwydd yr amodau lle cafodd y babanod eu geni.

“Er ei bod yn ddrwg iawn gennym glywed am farwolaeth un o'r efeilliaid, rydym yn falch bod un wedi byw o dan yr amgylchiadau. Diolch o galon i'r teulu am ein galluogi i rannu eu stori a thynnu sylw at waith ein gwasanaeth.”