Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cyhoeddi ei bod yn Ailagor ei Siop ym Mangor Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ailagor ei siop elusen ym Mangor ddydd Iau 08 Hydref. Oherwydd pandemig y Coronafeirws, bu'n rhaid i'r siop gau ei drysau ym mis Mawrth yn dilyn canllawiau'r llywodraeth. Er mwyn ailagor ei drysau, mae'r Elusen wedi rhoi mesurau gofalus ar waith i sicrhau bod y siop yn ddiogel i gwsmeriaid. Er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel yn y siop, mae'r Elusen wedi addasu'r oriau agor fel bod modd i staff a gwirfoddolwyr lanhau'r siop yn drylwyr cyn ac ar ôl iddynt agor bob dydd. Daw'r penderfyniad i ailagor ei siop ym Mangor, sydd ar y Stryd Fawr, ar ôl ailagor ei siopau yn Abertawe, Wrecsam a Chaerdydd yn llwyddiannus. Bydd y siop ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 11am a 4pm. Gan ddilyn canllawiau'r llywodraeth, bydd angen i bawb wisgo gorchuddion wyneb yn y siop elusen ym Mangor, ar wahân i'r rhai hynny sydd wedi'u heithrio rhag eu gwisgo. Dywedodd Pennaeth Manwerthu'r Elusen, Andrew Lawton "Rydym yn falch o allu ailagor ein siop ym Mangor . Mae incwm Ambiwlans Awyr Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y pandemig, yn sgil cau siopau elusen a chanslo digwyddiadau. Mae ein pedair siop sydd wedi ailagor yn gwneud yn dda iawn ac rydym yn gobeithio y bydd y siop ym Mangor yr un mor llwyddiannus. “Mae diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid yn hollbwysig i ni a hoffem roi sicrwydd i'n cefnogwyr ein bod wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod y siop yn ddiogel. Er mwyn gallu parhau i gadw'r siop ar agor, rydym yn gofyn i gwsmeriaid ddilyn y canllawiau llym. Nod hyn yw sicrhau eu bod nhw, yn ogystal â'n staff a'n gwirfoddolwyr, yn ddiogel. Diolch i'n holl gwsmeriaid sydd wedi bod yn amyneddgar wrth aros i'r siop ailagor." Bydd gofyn i gwsmeriaid gadw pellter cymdeithasol bob amser yn ogystal â dilyn system un ffordd. Mae'r Elusen hefyd yn gofyn i gwsmeriaid beidio â chyffwrdd ag unrhyw beth oni bai eu bod yn bwriadu prynu'r eitem. Pan fyddant wrth y til, bydd gofyn i gwsmeriaid sefyll yn y blwch penodedig a defnyddio dull talu digyffwrdd neu gerdyn lle y bo'n bosibl. Mae gorsafoedd diheintio dwylo hefyd ar gael i bobl sicrhau bod eu dwylo yn lân ac mae sgriniau Perspex wedi cael eu gosod wrth bob pwynt talu. At hynny, mae'r Elusen wedi gwneud rhai newidiadau i'r eitemau y gall eu derbyn yn ogystal â'i gwasanaeth dosbarthu. Mae'r gwahaniaethau hynny fel a ganlyn: Eitemau Rhodd – Yn anffodus , dim ond nifer cyfyngedig o eitemau y gall y siop ym Mangor eu derbyn ar hyn o bryd. Y rheswm dros hyn yw am fod angen cadw eitemau ar wahân am gyfnod i osgoi'r posibilrwydd o groeshalogi. Gwasanaeth Dosbarthu – Yn anffodus , dim ond gwasanaeth dosbarthu cyfyngedig y gall yr Elusen ei ddarparu ar hyn o bryd. Caiff eitemau eu gadael ar garreg y drws, yn hytrach na'u cario i mewn i gartrefi. Byddai'n well casglu eich eitemau o'r siop lle y bo'n bosibl. Nid yw'n bosibl casglu na dosbarthu mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol mewn grym. Manage Cookie Preferences