Mae dyn sydd wedi ymddeol o Benarth wedi cyflwyno siec o £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddo gwblhau sialens ‘O'r Wawr hyd Fachlud’ er budd yr elusen.

Gyrrodd Ed Griffith ei gar clasurol MGC GT i bob un o bedwar safle Ambiwlans Awyr Cymru mewn un diwrnod ar ran Clwb Perchnogion MG Pen-y-bont ar Ogwr.

Gyrrodd dros 400 milltir yn ei gar clasurol yn ystod y sialens a defnyddiodd bron i 17 galwyn o betrol. Dechreuodd o'i gartref ym Mhenarth, gan ymweld â'r safleoedd yn Llanelli, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.

Er iddo wynebu sawl rhwystr oherwydd gwaith ffordd a gwyriadau, llwyddodd Ed i gwblhau'r sialens o fewn 17 awr a hanner.

Yn ystod ei sialens, gwnaeth Ed gyfarfod ag amryw o staff a gwirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru yn y safleoedd. Fodd bynnag, erbyn iddo gyrraedd safle Caerdydd, roedd yr hofrennydd wedi cael ei alw allan i argyfwng.

Ychwanegodd Ed: “Roeddwn i'n eithaf blinedig, ond cefais fy sbarduno gan gyfeillgarwch, cefnogaeth ac ymroddiad holl staff a gwirfoddolwr Ambiwlans Awyr Cymru y gwnes i gyfarfod â nhw yn ystod y dydd, a wnaeth i mi deimlo hyd yn oed yn fwy penderfynol o gyrraedd fy nharged o godi £2,000 i'r sefydliad ar ran Clwb Perchnogion MG Pen-y-bont ar Ogwr.”

Mae Ed yn gyfarwydd iawn â chodi arian i elusennau; yn 2018 cododd £2,000 i Feiciau Gwaed Cymru drwy yrru ei gar MG oedd yn 50 mlwydd oed ar y pryd i bob cwr o Gymru mewn un diwrnod.

Fel aelod o Glwb Perchnogion MG Pen-y-bont ar Ogwr (MGOC), mae Ed hefyd wedi cymryd rhan mewn sawl un o deithiau elusennol blynyddol y clwb “O'r Cwm i'r Arfordir” yn ei gar MG clasurol. Ambiwlans Awyr Cymru yw un o'u prif fuddiolwyr, gan fod y Clwb yn ymwybodol ers peth amser y gallai'r gwasanaeth angenrheidiol hwn gael ei alw i helpu unrhyw ar unrhyw bryd.

Talodd am ei holl dreuliau ei hun, felly aeth y rhoddion i gyd i Ambiwlans Awyr Cymru.Ar ôl cyrraedd ei darged o £2,000 yn ddiweddar cyflwynodd y clwb siec i'r elusen yng nghanolfan Dafen, Llanelli.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dywedodd James Cordell, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Ed a Chlwb Perchnogion MG Pen-y-bont ar Ogwr am y rhodd o £2,000. Roedd Ed yn benderfynol o ymweld â'n pedwar safle mewn un diwrnod, ac er gwaethaf y traffig a'r gwaith ffordd, parhaodd â'i siwrne er budd yr elusen sy'n achub bywydau. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ed am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae rhoddion fel un Ed yn ein helpu i fod yno i bobl Cymru 24/7. 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.