Mae dyn o'r Barri wedi codi dros £2,000 drwy gwblhau taith elusennol ar ei sgwter o Gymru i Lundain i Gaeredin ac yn ôl mewn llai na 22 awr.

Gyrrodd Jason Ude, sy'n 50 oed, dros 1000 o filltiroedd er mwyn codi arian i'r elusen sy'n achub bywydau – Ambiwlans Awyr Cymru.

Gadawodd Jason Castell Caerdydd ar ei her 24 awr ar 9 Gorffennaf, gan stopio ond i gael tanwydd a seibiant. Teithiodd i Sgwâr Trafalgar, Llundain, yna ymlaen i Gaeredin, cyn dychwelyd i Gymru ar ei sgwter Vespa 3.  

Cafodd y tad i un gwmni ar y daith gan Ricky Williams, sy'n 35 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr ac sydd hefyd y gyrru sgwter, a ddarllenodd am Daith Elusennol Prifddinasoedd 3 Gwlad Jason ar ei sgwter ac a gynigiodd ymuno ag ef ar ei her. Gwnaeth y dynion gyfarfod am y tro cyntaf wythnos cyn y digwyddiad codi arian. Ers iddynt gyfarfod, mae Jason a Ricky wedi dod yn ffrindiau da, ac aeth Jason â Ricky ar ei rali sgwteri cyntaf yn ddiweddar.

Dywedodd Jason, a oedd wrth ei fodd ar ôl cwblhau'r daith mewn 21 awr a 28 munud: “Aeth y daith yn dda iawn, a gwnaethom godi £2,110 sy'n swm anhygoel. Hoffwn ddiolch i'm noddwyr a hoffwn hefyd ddiolch yn fawr i bawb a roddodd arian.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen sy'n achub bywydau, ac rwy'n edrych ymlaen at gynnal mwy o ddigwyddiadau codi arian i'w helpu yn y dyfodol.”

Dyw'r her anhygoel hon ddim yn newydd i Jason   – aeth ar yr un daith y llynedd a chododd bron £1,300 i Breast Cancer Now. 

Cafodd Jason a Ricky lawer o gefnogaeth gan deulu, ffrindiau a noddwyr. Hoffai Jason ddiolch i’w noddwyr Steve a Tracey Goodfellow o O’Neil Signs, Tony Bryant o Lambretta Club of Wales, Iggy Granger o Scooter Lab UK a Darren Groves o Crusader Promotions.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.         

Dywedodd Wendy McManus, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Ymgymerodd Jason a Ricky â'r her enfawr o deithio mwy na 1,000 milltir mewn 24 awr i Ambiwlans Awyr Cymru, gan lwyddo i godi mwy na'u targed codi arian, sef £2,000. Hoffem ddiolch i'r ddau ohonynt am eu cefnogaeth a'u hymroddiad i godi arian y mae angen dirfawr amdano.

“Mae Jason yn frwd iawn dros godi arian i elusennau ac rydym yn falch iawn o glywed ei fod yn bwriadu cynnal mwy o ddigwyddiadau codi arian yn y dyfodol er mwyn helpu ein gwasanaeth sy'n achub bywydau. Diolch i bawb a gyfrannodd neu a gefnogodd y ddau ddyn gyda'r her; mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.