Mae dyn o Ogledd Cymru a roddodd CPR mewn safle damwain wedi codi £4,196.12 drwy drefnu digwyddiad codi arian pêl droed er budd Ambiwlans Awyr Cymru. 

Cafodd Ashley Vaughan-Evans, 37 oed, o Lanelidan, Rhuthun, ei ysbrydoli i drefnu gêm bêl-droed 24 awr ar ôl y ddamwain, a ddigwyddodd pan oedd allan yn rhedeg yn ei bentref.

Roedd yn un o'r bobl gyntaf yn y lleoliad ac roedd angen iddo roi ei hyffordddiant cymorth cyntaf ar waith cyn i'r gwasanaethau brys gymryd drosodd. Yn ffodus, gwnaeth yr unigolyn oroesi'r gwrthdrawiad, diolch i Ashley am feddwl yn sydyn.   

Gwasanaethodd y dyn 37 oed, sy'n gweithio fel hyfforddwr cymorth cyntaf ac ymghyngorydd iechyd a diogelwch, yn y fyddin am 14 mlynedd a bu'n rhaid iddo ddefnyddio ei sgiliau achub bywyd ar sawl achlysur. 

Yn y gorffennol, mae hefyd wedi helpu i drin dyn a oedd wedi'i anafu'n ddifrifol wedi iddo syrthio i lawr arglawdd. Mae Ashley wedi helpu cymaint o bobl yn y gymuned, ac mae bellach yn cael ei alw'n rheolaidd gan breswylwyr yr ardal pryd bynnag y mae rhywun wedi'i anafu. Mae hefyd yn un o'r prif bwyntiau cyswllt ar gyfer y diffibriliwr yn ei bentref.   

Dywedodd: “Fel arfer rwy'n digwydd bod o gwmpas pan mae damweiniau'n digwydd. Rwyf wedi dysgu pobl yn yr ardal yn fy swydd, ac yn aml byddant yn fy ngalw i yn ogystal â'r gwasanaethau brys. 

“Pan fydd angen i mi wneud CPR, rwy'n teimlo'r adrenalin a does dim cyfle gennyf i feddwl amdano. Mae'n werth chweil gwybod eich bod wedi helpu i achub bywyd rhywun ac mae'n deimlad da. Rwyf wedi gorfod defnyddio fy mhrofiad cymorth cyntaf sawl gwaith ac mae'n sgil achub bywyd gwerthfawr y dylai pawb fod yn ymwybodol ohono.

“Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei angen arnoch chi. Efallai na fydd y mwyafrif o bobl byth yn ei ddefnyddio, ond gall helpu i achub bywyd rhywun.”

Ar ôl gwneud CPR y llynedd, penderfynodd drefnu gêm bêl-droed 24 awr yng Nghanolfan Hamdden Rhuthun, sy'n rhan Hamdden Sir Ddinbych. 

Dywedodd: “Roedd hwn yn syniad a gefais i a ffrind ers cryn amser. Gwnaeth y digwyddiad fy annog i feddwl am elusen y mae pawb yn yr ardal yn teimlo'n gryf amdani, felly gwnaethom benderfynu dewis Ambiwlans Awyr Cymru. 

“Mae hi'n elusen mor hanfodol ac maent wedi bod yn bresennol mewn sawl digwyddiad yr ydw i wedi bod ynddynt, felly roeddwn i'n teimlo mai dyna'r elusen orau i'w chefnogi.

“Mae gan Hamdden Sir Ddinbych sawl canolfan o amgylch yr ardal ac roeddent yn hapus i helpu a chaniatau i ni gael defnyddio'r ganolfan yn Rhuthun. Roedd cyfraniad fy ffrindiau, Ben Woodward a Kieran Davenport, hefyd yn amhrisiadwy yn fy helpu i drefnu'r digwyddiad. 

Daeth 16 o bobl at ei gilydd ar gyfer y gêm a chwarae am 24 awr o 11am i 11am y diwrnod canlynol. Gwnaeth sawl aelod o'r cyhoedd ddangos eu cefnogaeth i'r tîm yn ogystal ag ymuno â nhw

Dywedodd Ashley: “Roedd gennym 16 o fechgyn na wnaethant adael y safle, ond gwnaethom estyn y cyfle i'r cyhoedd, a wnaeth eu helpu os oedd angen egwyl arnynt. Roedd gennym fachgen bach a chwaraeodd am bum awr, a gofynnodd a allai wneud hyn eto.

Daeth cefnder Kieran i lawr o'r Alban i gymryd rhan. Roedd llawer o'r bobl a chwaraeodd yn cynnwys rhai o'r bechgyn sy'n chwarae pêl-droed ar ddydd Mawrth a dydd Iau. Rydym fel arfer yn chwarae pêl-droed ar faes pump bob ochr i gael hwyl ac i gadw'n heini.  

“Gwnaethom golli dau fachgen yn gynnar iawn oherwydd anaf a gwnes i dorri bys fy nhroed, ond mi wnes i barhau i chwarae.  Cawsom lawer o gefnogaeth drwy'r nos, a phobl yn aros tan tua 1am ac yna, tua'r diwedd, roedd y gymuned yn rhoi cefnogaeth i ni. 

“Roedd yn emosiynol iawn tuag at y diwedd a gwnaeth yr 16 o chwaraewyr gwreiddiol a ddechreuodd, hefyd ei gwblhau. Gwnaethom gyfrifo ein bod wedi gwneud cyfanswm o 130,000 o gamau. Roedd yn llawer o hwyl. Gwnaeth Sally a Debra o Ambiwlans Awyr Cymru roi llawer o gymorth i ni. Aeth Sally allan a gofyn i rai o fusnesau bwyd lleol a oedd ganddynt unrhyw fwyd yn weddill ar ddiwedd y noson ac am ei roi i ni. Cawsom bitsas, cebabau, a physgod a sglodion. 

“Roedd yn gyflawniad gwych, ac rydym yn falch iawn o'r hyn y gwnaethom i gyd ei gyflawni. Roeddem am wneud y digwyddiad mor llwyddiannus ag y gallwn gan fod Ambiwlans Awyr Cymru yn gallu helpu pawb.”

Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i ddarparu gwasanaeth awyr brys hanfodol i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd. Dyma'r unig elusen ambiwlans awyr a leolir yng Nghymru ac sy'n benodedig iddi. 

Dywedodd Debra Sima, un o swyddogion codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gydag Ashley a'r tîm.Gweithiodd Ashley yn galed iawn i sicrhau bod pob agwedd ar y digwyddiad yn llwyddiannus ac mae ei gefnogaeth wedi codi arian hanfodol i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.”