Mae cwmni o ymgynghorwyr amaethyddol wedi codi £7,000 i elusen drwy ddringo tri chopa mewn 24 awr.

Yn wreiddiol, penderfynodd cwmni CARA Wales Ltd yn Llanbedr Pont Steffan, i godi arian er mwyn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed y llynedd, ond bu'n rhaid iddo aildrefnu oherwydd pandemig y coronafeirws.

Roedd y tîm am godi arian i elusennau Ambiwlans Awyr Cymru a Thir Dewi oherwydd bod y ddwy'n bwysig iawn i gefn gwlad.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Er gwaetha'r tywydd ofnadwy, cwblhaodd deg cydweithiwr yr her gyfan o ddringo'r Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan mewn 24 awr, ac ymunodd chwech arall â nhw am y copa olaf, sef Pen y Fan.

Gadawodd y tîm eu cartrefi am 1:30am a chyrraedd Llanberis am 4:45am i ddechrau ar yr her. Cyrhaeddon nhw gopa'r Wyddfa erbyn 7am ac roeddent nôl ar y gwaelod eto erbyn 9am 'yn rhewi ac yn wlyb domen'.

Er eu bod yn wlyb, aethant yn eu blaenau a theithio i Ddolgellau er mwyn dechrau dringo Cadair Idris. Roedd hi'n gymharol sych pan gyrhaeddon nhw Ddolgellau ond dechreuodd arllwys y glaw ar eu ffordd i fyny. Cyrhaeddon nhw'r copa tua 1:30pm a'r gwaelod eto erbyn 4pm.

Aethant i Fannau Brycheiniog ar gyfer rhan olaf y daith er mwyn dringo mynydd Pen y Fan ac er gwaetha rhagor o law, cyrhaeddon nhw'r copa am 8pm.

Dywedodd Wendy Jenkins o CARA Wales Ltd yn llawn balchder: "Roeddem wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd copa Pen y Fan erbyn 8pm. Er ein bod yn wlyb domen unwaith eto, roedd yn orchest enfawr ac roedd pob un ohonom ar ben ein digon o gyrraedd y copa.

"Allwn ni ddim credu ein bod wedi llwyddo i godi cyfanswm o £7,000 a fydd yn cael ei rannu rhwng y ddwy elusen a hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth a'u rhoddion."

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Helen Pruett, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn falch dros ben fod CARA Wales Limited wedi dewis codi arian i'n Helusen, yn enwedig yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd yn 20 oed. Dylai'r staff fod yn falch iawn ohonynt eu hunain am godi £7,000 a fydd yn cael ei rannu rhwng dwy elusen bwysig.

"Er gwaetha'r tywydd ofnadwy a brofwyd ganddynt yn ystod y dydd, ni wnaeth neb ildio ac aethant yn eu blaenau i ddringo'r tri chopa mewn her a barodd 24 awr. Diolch i bob un ohonoch am eich cymorth ac i bawb sydd wedi rhoi arian i'w hymgyrch codi arian. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.