6ed Mehefin 2018

Diwrnod ym Mywyd Ambiwlans Awyr Cymri i Blant

Mae’r Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn adran arbenigol o Ambiwlans Awyr Cymru sydd yn darparu gofal arbenigol a thrafnidiaeth i rai o gleifion ieuengaf Cymru. Wedi ei lleoli yn Hofrenfa Caerdydd, mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu yn llwyr gan yr elusen ac yn meddu ar yr unig Ymarferwyr Cludo Hofrenyddion penodol yn y DU sydd yn arbenigo mewn cadw cleifion yn ddiogel ac yn gyfforddus tra’n hedfan. Yn ogystal â thri hofrennydd brys yr elusen, mae’r Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn barod i ymateb bob un diwrnod o’r flwyddyn er mwyn cludo babanod a phlant sydd yn sâl rhwng ysbytai. Mae pob cyrch achub yn cynnwys dau beilot hyfforddedig. Yn 2017 yn unig, roedd yr Ambiwlans Awyr Cymru i Blant wedi helpu 332 o gleifion Newydd-anedig a Phediatreg ar draws Cymru.

Andrew Morris – Ymarferydd Cludo Hofrenyddion ar Helimed 67

Mae’r diwrnod yn cychwyn am 08.00 drwy wirio’r holl offer meddygol a thrydanol yn fanwl, gan gynnwys systemau monitro cleifion, peiriant anadlu, diffibriliwr a phympiau trwytho er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n gywir. Mae’r offer yma wedyn cael ei osod ar yr hofrennydd, yn barod am y shifft.

Mae’r ddau grud cynnal hefyd yn cael eu gwirio, gan efallai y bydd angen cludo babanod sydd wedi eu geni cyn amser ar draws Cymru a thu hwnt. Rydym yn ffodus ein bod yn cludo rhai o’r crudau cynnal mwyaf datblygedig yn y DU, ac mae modd rheoli’r tymheredd, cynnig diogelwch a chymorth i anadlu i fabanod hyd at 4 kg. Mae’r babanod sydd yn cael eu cludo yn y crudau cynnal yma yn medru bod yn ddifrifol sâl ac angen triniaeth sylweddol er mwyn eu helpu i anadlu, helpu curiad y galon a phwysau gwaed tan eu bod yn cyrraedd uned gofal ddwys arbenigol i fabanod sydd newydd gael eu geni.

Unwaith y mae’r offer wedi ei wirio, mae’r briffio dyddiol yn cael ei gynnal rhwng y peilotiaid a'r Ymarferwyr Cludo Hofrenyddion. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y tywydd am y diwrnod, unrhyw gyfyngiadau o ran hedfan a phethau sydd yn medru effeithio ar y gwaith megis a yw’r safle ar gael yn yr ysbyty fel bod modd glanio. Yr Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yw’r unig ambiwlans awyr yn y DU lle y mae yna ddau beilot yn hedfan yr hofrennydd. Mae hyn yn unol gyda Safonau Ansawdd y Paediatric Intensive Care Society ar gyfer plant sydd yn ddifrifol sâl neu’n anabl.

Mae’r HTP wedyn yn cadarnhau argaeledd yr hofrennydd gyda Desg Cymorth Awyr yr elusen yng nghanolfan gyswllt glinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sydd yn cydlynu ein gwaith am y dydd. Rydym hefyd yn gweithio ag ystod o dimau arbenigol ar draws Cymru megais y Cymru Inter-Hospital Acute Neonatal Transfer Service (CHANTS) i drafod unrhyw waith sydd ar y gweill.

Yn ystod y shifft, efallai y bydd galw arnom i gefnogi timau pediatreg ac sydd yn helpu babanod sydd newydd eu geni ac mae hyn yn cynnwys cludo babanod o lefydd ar draws Cymru neu Fryste a’u cludo hwy a’r offer i ysbytai ar draws Cymru. Os yw babi neu blentyn angen ei sefydlogi ar frys gan dimau arbenigol, mae hedfan yn medru bod pedair gwaith ynghynt na theithio ar heol, yn enwedig yn sgil natur wledig rhannau helaeth o Gymru..

Yn ogystal â cheisiadau brys, rydym hefyd yn helpu i gludo babanod yn ôl agosach at adref ar ôl iddynt dderbyn y gofal priodol. Mae’r tîm wedi cludo babanod yn ôl i Ogledd Iwerddon, De Iwerddon ac ysbytai amrywiol yn Lloegr gan gynnwys Watford, Coventry a Taunton. Mae hyn hefyd

yn digwydd yn aml ar hyd a lled Cymru, yn enwedig plant sydd yn cael eu rhyddhau o Ysbyty Plant Cymru yng Nghaerdydd ac yn mynd i Aberystwyth neu ysbytai yng Ngogledd Cymru neu Dde Orllewin Lloegr megis Truro. Mae’r gwaith pwysig hwn yn sicrhau bod gwelyau ar gael mewn unedau plant tra hefyd yn sicrhau bod y plentyn neu’r baban yn agosach i adref a’u hanwyliaid.

Mae’n bosib derbyn cais ar unrhyw adeg ac maent yn medru amrywio o gasglu plant o Orllewin Cymru sydd hefyd angen llawdriniaeth brys ar eu cefn a’n eu cludo i Gaerdydd, plant sydd yn derbyn cemotherapi ym Mangor ac angen triniaeth frys yn Lerpwl neu blant sydd angen cu cludo pam fydd amser yn dyngedfennol er mwyn derbyn organau yn Llundain. Pan nad oes angen tîm arbenigol, mae’r plentyn yn derbyn gofal gan yr Ymarferydd Cludo Hofrenyddion, a byddwn yn cludo rhiant hefyd os yw hyn yn bosib a’u bod yn hapus i hedfan!

Mae’r tîm yn hedfan plant i ysbytai pediatreg arbenigol megis Great Ormond Street yn Llundain ac Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl, gan leihau’r amser i symud y cleifion bregus yma.

Mae gwaith tîm rhwng aelodau’r criw yn hanfodol er mwyn sicrhau gwasanaeth effeithiol ac effeithlon o’r gwasanaeth ac mae cynnal y gwaith trosglwyddo yma yn golygu llawer iawn o waith cynllunio, yn enwedig o ran yr hedfan. Er ein bod yn ceisio cwblhau pob cais, mae problemau megis tywydd gwael yn medru dylanwadu ar ein gallu, ac os yw’r peilotiaid yn dweud nad yw’n ymarferol i hedfan, rydym yn parchu hyn ac yn chwilio am ffyrdd amgen o gwblhau’r dasg, fel arfer gan ddefnyddio’r heolydd.

Mae hon yn swydd heriol ond yn hynod werth chweil ac nid oes dau ddiwrnod yr un fath. Mae’r shifftiau yn medru bod yn hir ond rydym yn gweithio fel tîm er mwyn helpu’r cleifion sydd yn ein gofal.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ariannu yn llwyr gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, na sydd yn derbyn unrhyw gyllid gan y llywodraeth na’r Loteri Genedlaethol. Mae’r elusen yn gwbl ddibynnol ar gefnogaeth pobl Cymru er mwyn casglu’r £6.5 miliwn sydd angen bob blwyddyn er mwyn cadw’r hofrenyddion a’r Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yn hedfan