Llwyddodd diwrnod hwyl i'r teulu i ddathlu Jiwbilî Blatinwm y Frenhines ym Mharc Carafanau Maes Glas i godi £700 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Penderfynodd perchenogion y parc godi arian i'r elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau gan fod y parc wedi'i leoli mewn ardal wledig, a'u bod yn aml yn gweld hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru yn glanio yn yr ardal leol.

Nid dyma'r tro cyntaf y mae'r parc carafanau yn Sarnau, Llandysul, wedi codi arian gwerthfawr i'r elusen. Gan ystyried pam ei fod yn cefnogi'r gwasanaeth, dywedodd Tim Hill: “Rydym bob amser wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym yn byw mewn ardal wledig, sy'n bell o ysbyty, ac felly mae'n hanfodol bod ymateb cyflym o'r fath ar gael i argyfyngau brys, a dim ond yr ambiwlans awyr all ddarparu'r ymateb hwnnw.”

Roedd yn ddigwyddiad poblogaidd, a daeth 120 o bobl i'r diwrnod hwyl i'r teulu llwyddiannus. Yn ystod y prynhawn, roedd cyfle i'r gwesteion fwynhau picnic a chafwyd adloniant gan Luke, y consuriwr.

Roedd digwyddiad chwaraeon i blant hefyd, gan gynnwys rasys traddodiadol – rhedeg, ras wŷ ar lwy, rasys rhwystr, yn ogystal â gemau parasiwt.

Mae gwasanaeth brys Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Ychwanegodd Tim a Sally Hill: “Gwnaeth pawb fwynhau eu hunain yn fawr iawn. Roedd cyfleoedd i wneud coronau a gêm ‘dyfalu enw'r corgi’. Gyda'r nos, cawsom farbeciw a rasys moch (nid moch go iawn). Roedd yr holl arian a godwyd yn arian a roddwyd ar y diwrnod ac roeddem wrth ein boddau ein bod wedi cyrraedd £700 erbyn diwedd y dydd. Roedd yn ddiwrnod ardderchog ac yn hwyl i bobl o bob oedran, gan godi arian i gefnogi achos da iawn.”

Yn ddiweddar, cyflwynodd Tim Hill siec i un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru, Helen Pruett, ym Mharc Carafanau Maes Glas.

Dywedodd Helen, yn llawn balchder: “Diolch yn fawr iawn i'r perchenogion am ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel yr elusen ar gyfer eu diwrnod hwyl i ddathlu Jiwbilî Blatinwm y Frenhines. Mae'n swnio fel diwrnod ardderchog, gyda chyfle i bobl o bob oedran fwynhau amrywiaeth o wahanol weithgareddau ac adloniant. Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i barhau â'i wasanaeth achub bywydau ar gyfer pobl Cymru. Bydd rhoddion, fel y swm hwn o £700, yn ein helpu i achub mwy o fywydau ledled Cymru. Diolch yn fawr, bawb.”