Beth rydym yn ei wneud Newyddion Newyddion Diwrnod Coffa Golff yn Codi Arian Gwerthfawr i Ambiwlans Awyr Cymru Dydd Llun 10 Chwefror 2020 Diwrnod Coffa Golff yn Codi Arian Gwerthfawr i Ambiwlans Awyr Cymru Mae diwrnod coffa golff a gynhaliwyd yn Sir Benfro yn ddiweddar wedi codi swm gwych o £7,500 ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Sefydlodd Richard Bellars ddigwyddiad golff nifer o flynyddoedd yn ôl er cof am ei ffrind agos, Steve Hodges, a gollodd ei fywyd i ganser yn 56 oed. Mae'r fformat yn gweld timau o bedwar yn cystadlu mewn ‘Texas Scramble’. Mae pob aelod o'r tîm yn taro'r bêl, ac yna bwrw'r bêl y tro nesaf o leoliad y bêl sy'n glanio yn y man gorau. Mae hyn yn parhau tan fod y bêl yn y twll. Cynhelir y digwyddiad yng Nghlwb Golff Newport Links, lle mae'r cwrs yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim gan Chris Noot a Gloria Jones. Hefyd, mae Caffi Cat Rock y Clwb yn darparu bwyd am gost isel fel y gellir rhoi mwy o arian tuag at y cyfanswm codi arian. Mae busnesau lleol yn cefnogi'r digwyddiad drwy nawdd yn gyfnewid am hysbysebu ar y llain bytio. Gall aelodau'r gymuned leol brynu tocynnau raffl a chymryd rhan mewn ocsiwn elusennol. Roedd y gwobrau eleni yn cynnwys crys wedi'i lofnodi a'i fframio gan y pêl-droediwr Gareth Bale, a maneg bocsio wedi'i lofnodi gan y cyn-bencampwr Joe Calzaghe. Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae mwy na £19,000 wedi cael ei godi ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Dywedodd James Cordell, Cydlynydd Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n wych gweld y gymuned leol yn dod at ei gilydd i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru gyda chystadleuaeth gyfeillgar. Mae 2020 yn flwyddyn bwysig i ni oherwydd rydym am gyflawni ein nod o fod yn wasanaeth 24/7. Ar ran yr Elusen, diolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o godi'r swm anhygoel hwn.” Oherwydd llwyddiant parhaus y digwyddiad, mae diwrnod golff arall wedi cael ei drefnu ddydd Sadwrn 15 Awst 2020. Dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â Chlwb Golff Newport Links ar 01239 820244. Manage Cookie Preferences