Cyhoeddwyd: 20 Mai 2024

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ddiolchgar o fod wedi cael rhodd garedig o £1,700 gan Gôr Dinas Bangor ar ôl y penderfyniad anodd i ddod â'r côr i ben.

Roedd Côr Dinas Bangor yn cynnwys aelodau o'r ddinas, yn ogystal ag aelodau o'r trefi a'r pentrefi cyfagos. Fodd bynnag, mae'r côr wedi gweld gostyngiad yn ei aelodau ers y pandemig yn 2020.

Bu'r alwad am fwy o aelodau yn anffodus yn aflwyddiannus ac o ganlyniad rhaid oedd iddynt ddod i'r penderfyniad i roi diwedd ar y côr.

Roedd yr aelodau oedd yn weddill yng Nghôr Dinas Bangor am wneud yn siŵr y byddai unrhyw arian oedd yn weddill ym manc y côr yn cael ei roi at achosion da.

Gwnaed penderfyniad unfrydol i rannu'r swm o £3,400 a oedd yn weddill rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a Hosbis Dewi Sant.

Cafodd Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru, Alwyn Jones ei wahodd i gyflwyniad diweddar lle derbyniodd siec gan Douglas Jones, Cadeirydd y côr oedd ar fin camu lawr.

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Alwyn: "Roedd yn drist clywed nad oedd digon o aelodau yn y côr yn dilyn y pandemig ac oherwydd hyn eu bod wedi penderfynu rhoi diwedd ar y côr. Fodd bynnag, roedd yn ystyriol iawn o'r aelodau i feddwl am roi'r swm o £3,400 a oedd yn weddill i ddau achos pwysig iawn. Diolch yn fawr am feddwl yn garedig am Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd yr arian yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru 24/7 a sicrhau bod ein hofrenyddion a'n cerbydau ymateb cyflym yn parhau i gefnogi pobl ledled Cymru. Diolch yn fawr, bawb.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen.