Mae disgyblion o Ysgol Morfa Nefyn wedi codi £713 drwy wisgo eu hesgidiau cerdded i gymryd rhan yn nigwyddiad codi arian Cerdded Cymru Ambiwlans Awyr Cymru – Castell i Gastell.

Rhoddodd Cerdded Cymru gyfle i gerddwyr  osod targed iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar nifer y camau y gallent eu cyflawni dros gyfnod  o fis o gysur eu cartrefi. Mae pob targed gyfwerth â thaith gerdded rhwng cestyll enwog Cymru  a gellid cyflawni hyn gartref , yn yr ardd neu wrth wneud ymarfer corff, wrth fynd â'r ci am dro - a hyd yn oed mynd i fyny ac i lawr y grisiau!   

Cafodd plant rhwng pedair a naw oed yr her o gerdded pellter taith rithwir rhwng Castell Dinas Brân a Chastell Caergwrle , sef 16 milltir neu  36,000 o gamau.  

Er mwyn cyflawni eu camau, rhedodd y plant filltir bob dydd o gwmpas cae yr ysgol a chymryd rhan mewn teithiau cerdded lleol, gan gynnwys taith gerdded i'r traeth lleol ym Mhorthdinllaen, lle gwnaethant greu hofrennydd hyfryd yn y tywod er mwyn annog pobl i roi arian.

Wrth feddwl am y rheswm dros gymryd rhan yn ymgyrch Cerdded Cymru, dywedodd Pennaeth yr ysgol, Nia Ferris: “Gwelsom fod her Cerdded Cymru yn cael ei hysbysebu a'i ddangos i gyngor yr ysgol. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant y plant, yn dilyn y cyfnodau clo diweddar, ac mae ymarfer corff a bod yn yr awyr agored yn un o'r prif faterion rydym yn canolbwyntio arnynt.

“Felly, penderfynodd y cyngor lleol y byddai'n syniad da iawn cymryd rhan, gan y byddai'n fuddiol iawn i'r disgyblion ac i'r gymuned. Nid dyma'r tro cyntaf inni ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel elusen ar gyfer ein gweithgareddau codi arian, gan ei bod yn fuddiol iawn, yn ein barn ni, o ystyried ein bod yn byw mewn ardal mor wledig.”

Mae Ysgol Morfa Nefyn, ym Mhwllheli, wedi cael cymorth gan y gymuned, yn ogystal â rhieni a theuluoedd yn eu digwyddiad codi arian. Cafodd y plant roddion pan oeddent ar y traeth yn ystod un o'u teithiau cerdded hefyd.

Gwnaeth y disgyblion a'r staff fwynhau her Cerdded Cymru, ac wrth feddwl am y swm o arian a godwyd, dywedodd y pennaeth: “Mae'r disgyblion mor falch o'r hyn y maent wedi’i gyflawni ac mae'r swm o arian a godwyd yn anhygoel. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi rhoi arian, gan sicrhau y gallwn ddangos ein gwerthfawrogiad i Ambiwlans Awyr Cymru.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.         

Dywedodd gweithiwr codi arian Ambiwlans Awyr Cymru, Louise Courtnage: “Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion a staff yn Ysgol Morfa Nefyn a gymerodd ran yn her Cerdded Cymru eleni. Er eu bod yn ifanc, llwyddodd y disgyblion i gerdded pellter taith rithwir rhwng Castell Dinas Brân i Gastell Caergwrle , gan godi swm anhygoel o £713. Hefyd, gwnaethant greu hofrennydd gwych yn y tywod ar y traeth er mwyn annog pobl eraill i roi arian i'w digwyddiad codi arian. Diolch i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad codi arian yr ysgol neu a roddodd arian iddo; mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru. Diolch yn fawr.”

Mae amser o hyd i roi arian i ddigwyddiad codi arian yr ysgol drwy ei thudalen Just Giving 'Ysgol Morfa Nefyn - Her Cerdded Cymru / Walk Wales Challenge'.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.