Mae digwyddiad mawreddog elusen polo a gynhaliwyd gan Eu Huchelderau Brenhinol, Tywysog a Thywysoges Cymru, wedi codi £115,000 ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Out-Sourcing Inc. Cynhaliwyd Cwpan yr Elusen Polo Brenhinol yng Nglwb Polo Guards yn Windsor ym mis Gorffennaf. Chwaraeodd y Tywysog, a gafodd ei gyhoeddi fel Noddwr Brenhinol Ambiwlans Awyr Cymru yn gynharach eleni, fel rhan o dîm Cymdeithas Polo yr Unol Daleithiau. Cynhaliwyd y twrnament gyda thîm Polo Standing Rock a thîm Polo Gofal Iechyd BP yn cymryd rhan.

Gan ddilyn fformat cyffrous 'round-robin', tîm Cymdeithas Polo yr U.D. enillodd gyda Thywysoges Cymru yn cyflwyno Cwpan Elusen Out-Sourcing Inc. i'r capten buddugol Aiyawatt Srivaddhanaprabha.

Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei dewis gan y pâr brenhinol fel un o un ar ddeg elusen i elwa o'r digwyddiad, gyda buddiolwyr eraill yn cynnwys MHI (Shout), Centrepoint, The Passage, Mountain Rescue England & Wales, Foundling Museum, Forward Trust, East Anglia Children’s Hospices, Baby Basics, Little Village ac AberNecessities. Derbyniodd pob elusen £115,000 i gefnogi eu gwaith hanfodol.

Cafodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru, ei gwahodd i'r twrnamaint i hyrwyddo gwaith yr Elusen. Dywedodd: "Roedd yn achlysur hyfryd ac roeddem yn falch o gael bod yn un o'r elusennau a ddewiswyd i elwa o'r digwyddiad hwn. Mae ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru, yn dangos diddordeb brwd a rhagweithiol yn ein Helusen ac fel cyn beilot ambiwlans awyr ei hun, mae'n deall pwysigrwydd gwasanaeth o'r fath yn well na'r mwyafrif. Mae'r Tywysog bellach yn aelod angerddol o deulu Ambiwlans Awyr Cymru."

Ymwelodd Eu Huchelderau Brenhinol â lleoliad Ambiwlans Awyr Cymru yn Nafen ym mis Chwefror eleni. Gwnaethyant gyfarfod â gweithwyr brys, gwirfoddolwyr a chefnogwyr, gan ddysgu mwy am weithrediadau diweddar yr elusen ledled Cymru. Cafodd y Tywysog a'r Dywysoges hefyd gyfle i siarad â chleifion ac agor Ystafell newydd i Gleifion a Theuluoedd yn swyddogol a gaiff ei defnyddio gan Wasanaeth Ôl-ofal Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn ystod yr ymweliad hwn cyhoeddwyd y byddai'r Tywysog yn Noddwr Brenhinol yr Elusen.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru, a sefydlwyd yn 2001, yn wasanaeth Gymru gyfan sydd wedi cwblhau dros 46,000 o alwadau ers hynny. Mae Ambiwlans Awyr Cymru ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a gaiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). 

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.