Llwyddodd digwyddiad nofio blynyddol Clwb Triathlon y North Dock Dredgers i godi £1,575 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i feddygon yr Elusen gynorthwyo mab un o'r aelodau.

Dyma'r wythfed tro i'r clwb gynnal digwyddiad nofio elusennol o'r fath er mwyn codi arian i achosion gwahanol. Yn flaenorol, mae'r clwb wedi codi arian i Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub ym Mhorth Tywyn, Bad Achub y Glannau Casllwchwr ac Ysgol Heol Goffa.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn agos at galonnau aelodau'r clwb ar ôl i'r meddygon achub bywyd Griff Hughes, mab Emma Hughes sy'n aelod o'r clwb.

Mentrodd 12 aelod dewr i'r dyfroedd oer ar gyfer y digwyddiad nofio hwn yn ystod cyfnod y Nadolig yn eu man hyfforddi dŵr agored – Doc y Gogledd, Llanelli.

Dywedodd aelod o Glwb Triathlon y North Dock Dredgers, Gary Davies: “Roedd y dŵr ar y diwrnod yn 4.5 gradd. Gwnaeth rhai wisgo siwt wlyb fel y gallent nofio ychydig ymhellach na'r rhai mewn siorts/gwisg ffansi. Gwnaethom ddewis Ambiwlans Awyr Cymru eleni am fod un o'n haelodau, Emma Hughes, wedi cael profiad uniongyrchol o gymorth yr elusen. Cafodd ei mab ei gludo yn yr hofrennydd ychydig flynyddoedd yn ôl ar ôl damwain car, felly roedd yr achos yn agos at ei chalon.

“Roeddem yn falch iawn o'r £1,575 a godwyd. Cawsom lawer o gefnogaeth gan fusnesau lleol a threfnwyr rasys triathlon a gyfrannodd wobrau raffl ac ati.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i Glwb Triathlon y North Dock Dredgers a gododd arian i'r Elusen drwy nofio yn y dŵr oer iawn. Mae'r clwb yn ymwybodol o'r gwasanaeth sy'n achub bywydau y mae'r Elusen yn ei ddarparu 24/7 ar ôl i Ambiwlans Awyr Cymru achub bywyd Griff, sef mab Emma. Mae bob amser yn braf clywed am deulu a ffrindiau sy'n codi arian i'r Elusen ar ôl iddi helpu un o'u hanwyliaid. Mae rhoddion fel yr un hon yn ein helpu i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgyrch codi arian ac a roddodd arian.”

PICTURE CREDIT: Hidden Carmarthenshire - Photographer Darren Harries