Cyhoeddwyd: 22 Ionawr 2024

Mae'r digwyddiad codi arian poblogaidd 'Mercedes Ar Y Prom' wedi codi £7,700 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl codi arian am bum mlynedd.

Mae aelodau clwb Perchnogion Mercedes-Benz Cymru - y Gogledd a'r Gororau wrth eu bodd bod yr ymgyrch wedi parhau i godi arian ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau.

Mae Chris Davies, Cyd-Swyddog Rhanbarthol Cymru - y Gogledd a'r Gororau, yn falch iawn o'r swm y mae'r digwyddiad wedi'i godi ar gyfer yr Elusen yn ystod y pum digwyddiad codi arian. Bu'n rhaid iddynt gymryd seibiant am ddwy flynedd oherwydd coronafeirws.

Dywedodd: "Rwy'n falch fod y clwb wedi gallu codi'r swm hwnnw gan fy mod yn gwybod fod pob ceiniog yn cyfrif, a'i fod yn helpu i gadw'r ambiwlansys awyr yn yr awyr a'r ceir ar y ffyrdd. Fel rhanbarth Clwb Perchnogion Mercedes-Benz Cymru - y Gogledd a'r Goroau, byddwn yn parhau i godi arian yn 2024."

Roedd 115 o geir yr aelodau i'w gweld mewn rhes ar y promenâd yn ystod y digwyddiad blynyddol hwn, y tu allan i Westy St George yn Llandudno.

Cododd y digwyddiad eleni dros £1,300 ac roedd amrywiaeth o fodelau i'w gweld drwy gydol y dydd, gan gynnwys 170SBC o 1938 ac ymlaen i'r modelau Mercedes mwy diweddar.

Roedd y Mercedes eraill yn gyfuniad o fodelau SL gan amrywio o steil modelau'r 70au i'r modelau diweddaraf.

Ar ben hyn, gwelwyd modelau W124 (Dosbarth E) o'r 80/90au ymhlith modelau mwy diweddar ohonynt, yn ogystal â 190 Ponton o ddiwedd y 50au.

Dywedodd Debra Sima, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran. Mae 'Mercedes Ar Y Prom' bob amser yn ddigwyddiad llwyddiannus, a bydd y perchnogion ymysg aelodau'r clwb yn llwyddo i gyflwyno amrywiaeth o fodelau yn ddi-ffael. Eleni, cymerodd 115 o gerbydau ran, a gwnaethant lwyddo unwaith eto i godi swm anhygoel i'n helusen.

“Mae angen i elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n achub bywydau godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw ein hofrenyddion sy'n achub bywydau yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Mae'r rheini a gymerodd ran neu a gefnogodd y digwyddiad yn ein helpu i barhau i achub bywydau ledled Cymru. Diolch!” 

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol, gan wella'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.