Cynhaliodd disgybl o Ysgol Uwchradd y Trallwng fore coffi llwyddiannus er mwyn helpu elusen sy'n achub bywydau, gan lwyddo hefyd i ennill cymhwyster am ei hymdrechion. 

Cododd y disgybl blwyddyn 10, Rebekah Romei, £100 i Ambiwlans Awyr Cymru. Yn yr ysgol, treuliodd Rebekah rywfaint o'i hamser yn cwblhau cymhwyster  ‘Gwyddoniaeth Heddiw’. I'w galluogi i ennill y cymhwyster ‘Gwyddoniaeth heddiw’, astudiodd Rebekah unedau a oedd yn cynnwys y corff dynol ynghyd â chyflwyniad i ofal anifeiliaid.  

Fel rhan o'r cymhwyster, roedd hefyd yn ofynnol i Rebekah ddangos ei bod yn gallu gweithio mewn grŵp, felly trefnodd fore coffi i godi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru.  

Lluniodd Rebekah ei rheolau ei hun ar gyfer gweithio gydag eraill, pennu rolau, a chyflawni tasgau penodedig. Dyma oedd y tro cyntaf i Rebekah godi arian i Elusen a gwnaeth ‘ymdrech ardderchog’ yn trefnu'r bore coffi. Hoffai Rebekah ddiolch i bawb a fynychodd ac a fwynhaodd yr amrywiaeth o gacennau. 

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Dywedodd Dougie Bancroft, Swyddog Codi Arian Cymunedol o Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Rebekah a staff yr ysgol am gynnal bore coffi i helpu Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ogystal â'i llwyddiant yn codi £100 i'n helusen, llwyddodd Rebekah hefyd i ennill cymhwyster ar yr un pryd, sy'n ardderchog. Dyma oedd y tro cyntaf i Rebekah godi arian i ni ac roedd yn ymdrech ardderchog. Roedd y cacennau yn edrych yn flasus iawn! 

“Bydd yr arian a godwyd i'r Elusen yn helpu i gadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr ac i gadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y bore coffi.” 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.   

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.