Mae un o gyn-gleifion Ambiwlans Awyr Cymru wedi rhoi ei waith celf i gael ei werthu yn un o siopau’r Elusen er mwyn diolch i'w meddygon am ddod i'w helpu.

Penderfynodd Gary Crosby, sy'n 60 oed, o Abertawe, roi rhai o'i baentiadau dyfrliw i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r ambiwlans awyr ei gludo i Ysbyty Treforys pan gwympodd a thorri ei asgwrn cefn 20 mlynedd yn ôl.

Dywedodd y tad i ddau o blant: “Flynyddoedd lawer yn ôl aeth yr ambiwlans awyr â mi i'r ysbyty pan oedd yn rhy anodd i'm cludo mewn cerbyd ar y ffordd. Roeddwn wedi cwympo ac wedi torri fy nghefn. Ffoniodd fy ffrind ambiwlans. Daethant ataf a'm hasesu a phenderfynwyd y byddai'n well fy hedfan i Ysbyty Treforys. Felly, cafodd yr ambiwlans awyr ei alw.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hanfodol, yn fy marn i. Mae'n dibynnu ar roddion cyhoeddus a dylai pob un ohonom wneud ein gorau i gefnogi'r gwasanaeth. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei angen arnoch chi."

Dioddefodd Gary doriad cywasgu yn ei asgwrn cefn a arweiniodd at niwed parhaol i linyn y cefn. Cafodd lawdriniaeth ychydig flynyddoedd ar ôl ei ddamwain ac, yn y pen draw, bu'n rhaid iddo ddefnyddio cadair olwyn â phŵer yn barhaol ac roedd mewn llawer o boen.

Ychwanegodd: “Roeddwn yn dioddef o iselder am sawl blwyddyn. Ar fy mhen-blwydd yn 50 oed, prynodd fy ngwraig focs o baentiau dyfrliw i mi er mwyn ceisio helpu i roi ffocws i mi. Dysgais sut i baentio drwy wylio YouTube. Ymhen amser, roedd gen i lawer o baentiadau ac roeddwn yn awyddus i wneud rhywfaint o ddaioni gyda nhw. Gofynnwyd i mi a fyddwn yn rhoi paentiad i elusen cyn-filwyr i godi arian ar gyfer milwyr a menywod sy'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma.”

Penderfynodd Gary roi 94 o baentiadau, a oedd wedi cymryd dwy flynedd iddo eu paentio, a chododd dros £1,400 o fewn dwy awr yn ystod ei arddangosfa.

Mae Gary wedi rhoi llawer o'i baentiadau i siop elusen Ambiwlans Awyr Cymru ar Stryd y Coleg yng Nghanol Dinas Abertawe ac mae tua 10 ohonynt eisoes wedi'u gwerthu.

Dywedodd: “Rwy'n disgwyl parhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, ymhlith elusennau eraill, am amser hir i ddod.”

Dywedodd Jane Griffiths, Swyddog Codi Arian Cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Gary wedi paentio dyfrliwiau gwych, ac rydym wrth ein bodd ei fod wedi eu rhoi ei baentiadau i godi arian i'r elusen a ddaeth i'w helpu. Mae'r paentiadau'n brydferth, ac rydym yn diolch i Gary o waelod calon am ei haelioni anhygoel wrth greu ei ddyfrliwiau ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Mae eisoes wedi codi arian i elusennau gwahanol ac mae'n bwriadu rhoi rhagor o baentiadau i achosion da yn y dyfodol, sy'n ysbrydoledig iawn.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am baentiadau dyfrliw Gary drwy fynd i'w dudalen Facebook – 'Watercolour my way'.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am ffyrdd arloesol o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.