Mae bachgen ysgol o Sir y Fflint, a dorrodd ddau asgwrn yng nghefn ei benglog, wedi codi £5,000 i'r gwasanaethau a ofalodd amdano.

Bydd Cory Pygott, sy'n 14 oed o Fynyddisa, yn cerdded 13 o filltiroedd gyda naw o'i ffrindiau o Argoed i Ysbyty Maelor Wrescam er budd Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a ward plant yr ysbyty.

Dim ond tair wythnos yn ôl, roedd y disgybl o Ysgol Uwchradd Argoed yn y parc gyda'i ffrindiau, pan gwympodd oddi ar siglen a cholli ymwybyddiaeth ar ôl iddo daro ei ben ar far metel.

Dywedodd Cory: “Roedd yn ddifrifol i’r graddau y byddwn mewn cyflwr llawer mwy difrifol pe na bai fy ffrindiau a Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru wedi gweithredu mor gyflym ag y gwnaethant. Roeddwn yn gwaedu o'm clustiau ac roeddwn yn anymwybodol. Gwnaethant ffonio 999 a gwneud yn siŵr nad oeddwn yn tagu ar fy nhafod, a gwnaethant sicrhau fy mod yn yr ystum adfer.”

Anfonwyd ambiwlans ac ambiwlans awyr i helpu Cory ac, oherwydd ei gyflwr, penderfynwyd wedyn bod angen ambiwlans awyr arall gyda meddyg ymgynghorol yn bresennol.

Er gwaethaf y pryderon cychwynnol y byddai angen hedfan Cory i Ysbyty Athrofaol Royal Stoke neu Ysbyty Plant Alder Hey, roedd yn ddigon sefydlog i fynd yn syth i Ysbyty Maelor Wrecsam mewn ambiwlans ar y ffordd.

Ychwanegodd: “Diolch byth, rydw i wedi cael fy rhyddhau o'r ysbyty yn barod ac rydw i'n gwella'n dda o ystyried fy mod i wedi torri dau asgwrn yn fy mhenglog.”

Bydd naw o ffrindiau Cory, sef Yazmin Richardson, Ieuan Alan, Ben Worrall, Clément Vick, James Brownbill, Isaac Godwin, Jac Jones, Lucca Jones a JJ Griffiths yn ymuno ag ef.

Mae’r teulu’n ddiolchgar iawn i’w ffrindiau ysgol am helpu i achub bywyd Cory. Gwnaeth ei ffrind, Yazmin, ei rwystro rhag tagu drwy gael ei dafod allan o gefn ei wddf, a gwnaeth ei ffrind, Clément, ei roi yn yr ystum adfer.

Rhedodd James ac Ieuan i dŷ Cory yn y pentref lle roedd ei chwaer, Lucy, sy'n 16 oed, gartref. Llwyddodd Lucy i gael help gan ffrind y teulu, Des, ac aeth ef â nhw yn ôl at Cory.

Aeth Yasmin a Clément i gael help hefyd, ac arhosodd Ben, sy'n 13 oed, gyda Cory, er mwyn parhau i siarad ar y ffôn â'r gwasanaethau brys.

Dywedodd Stephen, sef tad Cory: “Hoffwn i'r plant gael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu. Gwnaethant lwyddo i reoli'r sefyllfa a hwythau mor ifanc. Pan gyrhaeddodd yr help, aeth y plant i nôl ein ffrind, Des, i ddadsgriwio colynnau'r giât i Barc Argoed, er mwyn sicrhau y gallai'r ambiwlans gael mynediad iddo. Gwnaethant hefyd sicrhau bod ceir yn cael eu symud a gwnaethant aros ar ben y ffordd er mwyn sicrhau na fyddai'r ambiwlans yn mynd ar goll.

“Roedd yr ambiwlans a’r parafeddygon wrth ochr Cory o fewn 10 munud, a'r ambiwlans awyr cyntaf yn fuan wedyn, ac yna cyrhaeddodd yr ail ambiwlans awyr gyda meddyg ymgynghorol a fyddai wedi gallu rhoi Cory mewn coma bwriadol. Diolch byth, roedd Cory yn gwella ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Maelor Wrecsam mewn ambiwlans cyffredin.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn rhywbeth rydych yn ymwybodol ohono ac mae'n wasanaeth hanfodol i'w gael. Fodd bynnag, ar ôl damwain Cory, rydym yn gwerthfawrogi'r ambiwlans awyr yn fwy nag erioed.”

Yn rhyfeddol, roedd Cory adref o fewn 48 awr i'w ddamwain a sefydlodd ei dudalen Go Fund Me 48 awr yn ddiweddarach oherwydd ‘mae am roi yn ôl i'r bobl a'i helpodd’.

Dywedodd Debra Sima, swyddog codi arian cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n wych clywed bod rhywun yr oedd angen cymorth meddygon yr Elusen arno yn ddiweddar, yn codi arian i roi rhywbeth yn ôl i'r bobl a oedd yn gofalu amdano. Mae Cory a'i ffrindiau eisoes wedi codi swm anghoel o £5,000 i dri achos pwysig – pob lwc i chi i gyd a diolch am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym yn dymuno'n dda i Cory wrth iddo wella."

Cynhelir y daith gerdded ar 30 Awst, ac wedyn bydd raffl a stondin gacennau yng Nghlwb Cymdeithasol a Chwaraeon Argoed. Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Cory a'i ffrindiau drwy fynd i'w dudalen Go Fund Me ‘Help us raise money for 3 different foundations’.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.