Cyhoeddwyd: 29 Chwefror 2024

Mae dau fachgen o Gapel Bangor yn anrhydeddu eu diweddar frawd drwy gymryd rhan mewn dwy her redeg ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Er gwaethaf ymdrechion gorau Ambiwlans Awyr Cymru a aeth i'w helpu, bu farw Ned Jones, 5 oed, yn dilyn damwain car yn 2016. Bu farw ei fam-gu yn yr un ddamwain car hefyd.

Bydd Cai Jones, 9 oed, a'i frawd Tomi, 16 oed, yn ymgymryd â'u heriau rhedeg eu hunain eleni er cof am eu brawd Ned.

Mae Cai eisoes wedi dechrau ei her redeg, sy'n cyd-daro â phen-blwydd Ned yn 13 oed. Mae'n rhedeg 13 milltir mewn un wythnos; dwy filltir y diwrnod am chwe diwrnod ac yna un filltir ar y diwrnod olaf, 2 Mawrth, sef diwrnod pen-blwydd Ned.

Mae Tomi, ei frawd mawr, yn dangos ei gefnogaeth i Cai drwy redeg ochr yn ochr ag ef. Mae Tomi hefyd wedi gosod her iddo ef ei hun i'w chwblhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd Tomi yn rhedeg ei ras gyntaf erioed i oedolion, sef Ras 10k Aberystwyth, a fydd yn cael ei chynnal ym mis Rhagfyr.

5 cilometr yw'r pellaf mae Tomi wedi rhedeg, felly bydd y ras 10 cilometr yn her ond yn rhywbeth iddo ymarfer tuag ati.

Mae Tomi yn mynychu grŵp hyfforddi rhedeg yn wythnosol, ac yn cael ei hyfforddi gan redwr lleol o'r enw Dic Evans, sydd wedi cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr yn y gorffennol.

Mae'r bechgyn eisoes wedi cyrraedd eu targed codi arian o £1,300, gyda'r rhoddion hyd yma yn werth cyfanswm o dros £1,600.

Dywedodd eu mam falch, Sharon Jones: “Rwy'n hynod falch fod y bechgyn yn barod i gymryd rhan mewn her er cof am Ned a'u bod yn hapus i wneud hynny, ac rwy'n gwybod y byddent yn teimlo'n falch iawn o'u hunain wrth i'r arian a godwyd gael ei roi i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae bob amser wedi bod yn bwysig i mi gofio am Ned, ac roeddwn i am i hyn fod yn rhywbeth arbennig y byddent yn ei gofio ac yn gallu edrych yn ôl arno gyda balchder.” 

Dyma'r tro cyntaf i'r bechgyn godi arian ar eu pen eu hunain. Fodd bynnag, mae Bleddyn, eu tad, wedi cwblhau her rwyfo 24 awr dan do yn y gorffennol er mwyn codi arian er cof am Ned. Gwnaeth Cai a Tomi ddangos eu cefnogaeth i'w tad yn ystod y digwyddiad codi arian hwn drwy neidio ar y peiriannau rhwyfo ochr yn ochr ag ef. Codwyd dros £11,500 yn ystod y digwyddiad i Ambiwlans Awyr Cymru.

Wrth feddwl am y digwyddiad codi arian, dywedodd Sharon: “Ry'n ni'n gobeithio y bydd rhai o ffrindiau Cai yn gallu ymuno ag ef i redeg y filltir olaf, ac mae Cai yn edrych ymlaen at hynny. Rwy'n siŵr y bydd Cai yn teimlo'n flinedig iawn erbyn y seithfed diwrnod, felly gobeithio y bydd ei ffrindiau yn gallu rhoi hwb iddo orffen gyda gwen.

“Mae Tomi eisoes yn edrych ymlaen at hyfforddi ar gyfer y ras 10 cilometr. Mae'n gystadleuol, fel ei dad, a bydd am gwblhau'r ras mewn amser da.”

Dywedodd Flora Stanbridge, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae wedi bod yn braf clywed bod Tomi a Cai yn codi arian er cof am eu brawd Ned. Mae'n ysbrydoledig gweld sut mae canlyniad cadarnhaol wedi deilio o amgylchiadau hynod drasig drwy godi arian i'n hachos. Mae'r bechgyn eisoes wedi cyrraedd eu targed codi arian sy'n dangos y gefnogaeth y maent yn ei gael gan deulu a ffrindiau.

“Diolch yn fawr i'r teulu cyfan am eu cefnogaeth barhaus. Bydd pob rhodd yn galluogi Ambiwlans Awyr Cymru i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Diolch yn fawr.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Cai a Tomi drwy gyfrannu at eu digwyddiad codi arian ar eu tudalen Just Giving.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.