Cyhoeddwyd: 08 Chwefror 2024

Mae digwyddiad casglu arian mewn bwcedi llwyddiannus wedi codi £550 ar gyfer elusen achub bywydau Cymru.

Ar ôl ymweld â gorsaf awyr Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon, penderfynodd aelodau o Glwb Rotari Llandrillo-yn-Rhos eu bod am godi arian i'r Elusen.

Gwnaethant drefnu digwyddiad casglu arian mewn bwcedi yn Tesco, Cyffordd Llandudno a chodi arian hanfodol i'r Elusen. Bob blwyddyn mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn i gadw'r gwasanaeth i fynd.

Dyma'r ail dro i'r clwb rotari godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ac maent wedi codi cyfanswm o £1,200.

Yn dilyn y digwyddiad casglu arian mewn bwcedi, cafodd Alwyn Jones, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru yn y Gogledd-orllewin, wahoddiad i fod yn siaradwr gwadd gyda Chlwb Rotari Llandrillo-yn-Rhos, lle cafodd ymateb cyfeillgar a llawn edmygedd i'w gyflwyniad.

Dywedodd Alwyn, yn ddiolchgar: “Roedd yn hyfryd clywed bod yr aelodau wedi mynd ati i godi swm anhygoel o £550 ar ôl iddynt ymweld â'n gorsaf awyr a chlywed am y gwaith hanfodol a wneir gan ein Helusen 24/7. Roedd yn braf cwrdd ag aelodau o Glwb Rotari Llandrillo-yn-Rhos. Mae pob rhodd a wneir i'r Elusen yn ein galluogi i barhau â'n gwaith caled i sicrhau bod y gwasanaeth hwn sy'n achub bywydau ar gael i bobl Cymru pan fydd ein hangen fwyaf. Diolch i bawb a gymerodd ran neu a roddodd arian yn ystod y digwyddiad. Rydym yn ei werthfawrogi'n fawr. Rydych chi i gyd wedi chwarae rhan wrth achub bywydau ar hyd a lled ein gwlad.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Ychwanegodd Dr Kent Hill, o Glwb Rotari Llandrillo-yn-Rhos, fod pobl o bob oedran, yn enwedig rhwng 50-80 oed, yn hapus i roi arian i'r elusen. Ychwanegodd ei fod yn rhyfeddol clywed pobl yn esbonio pam roeddent yn rhoi arian; gan gynnwys y ffaith bod rhai pob yn rhoi arian am eu bod wedi arfer gweld yr hofrennydd am eu bod yn byw ar y mynyddoedd neu ger y bryniau.