Bydd diffoddwyr tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru drwy gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd yn eu cyfarpar diffodd tân llawn.

Bydd Carwyn Thomas, Dewi Morgans a Tom Kerton o Orsaf Dân Aberystwyth ac Owain Evans o Orsaf Dân Caerfyrddin yn ymgymryd â'r cwrs 13.1 milltir ddydd Sul 1 Hydref 2023.

Byddant yn rhedeg yn eu cyfarpar diffodd tân llawn gan gario cyfarpar anadlu, sy'n pwyso tua 15kg yr un.

Bydd y tîm yn cynnal cyfres o weithgareddau codi arian i baratoi ar gyfer y digwyddiad, ac maent wedi creu tudalen Just Giving i reoli'r rhoddion. Fis diwethaf, rhedodd y tîm 11 milltir yn eu cyfarpar diffodd tân llawn ar hyd Promenâd Aberystwyth i ddechrau eu hymgyrch codi arian. Gwnaethant hefyd gerdded i fyny ac i lawr y prom yn cario bwcedi casglu, gan godi £300.

Dywedodd Carwyn Thomas fod y tîm wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru am eu bod wedi gweld eu hunain pa mor hanfodol yw'r gwasanaeth i bobl yng Nghymru.

Dywedodd: "Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hollbwysig i'n cymunedau. Fel Gwasanaeth Tân, rydym wedi gweld sawl achos difrifol a brofodd sut y gall gofal ar unwaith gan Wasanaeth Ambiwlans ac Ambiwlans Awyr Cymru helpu i achub bywydau ar ochr y lôn.

"Mae'r canlyniad gymaint gwell i gleifion pan fyddant yn derbyn gofal ar unwaith gan feddygon a pharafeddygon sy'n hedfan gydag Ambiwlans Awyr Cymru, ac rydym yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth ymhob achos rydym wedi bod iddo gyda nhw."

Yn ogystal â chefnogi Ambiwlans Awyr, mae'r tîm yn helpu i godi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân, sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau presennol a'r rhai wedi ymddeol o gymuned gwasanaeth tân ac achub y DU; a 2 Wish, elusen sy'n darparu cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth annisgwyl plentyn neu berson ifanc.

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae'r Elusen yn cynnig gofal critigol uwch a gaiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). 

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Bydd y pedwar diffoddwr tân yn rhannu diweddariadau cyson am yr hyfforddi a'r ymgyrch codi arian ar dudalen Facebook Gorsaf Dân Aberystwyth a gallwch gefnogi'r tîm drwy gyfrannu i'w tudalen JustGiving, www.justgiving.com/team/TanFire