Mae mam-gu garedig o Saundersfoot wedi codi mwy na £1,140 i elusennau, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, drwy wneud mwy na 550 o amddiffynwyr wyneb a masgiau.

Drwy'r cyfnod clo, mae Diane Jones wedi bod yn gwneud amddiffynwyr wyneb, ac mae wedi eu rhoi yn garedig i gartrefi gofal, nyrsys ardal a phreswylwyr oedrannus sy'n agored i niwed Sir Benfro.

Wedyn, trodd Diane ei sylw at wneud masgiau tair haen golchadwy i'r cyhoedd er budd amrywiaeth o elusennau, gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Ymddiriedolaeth Anthony Nolan a City Hospice Caerdydd.

Mae Diane wedi rhoi £500 i Ambiwlans Awyr Cymru ac mae'n gobeithio codi mwy o arian i fwy o elusennau lleol sydd angen ei help.

Wrth feddwl am ba mor bwysig yw gwneud eitemau cyfarpar diogelu personol dywedodd Diane, sydd wrthi ar hyn o bryd yn gwneud masgiau â thema Nadoligaidd: “Yn y dechrau, roedd mor drist. Roedd pobl yn gofyn i mi wneud amddiffynwyr wyneb i aelodau o'u teuluoedd a oedd yn gweithio mewn cartrefi gofal ac nad oedd unrhyw gyfarpar diogelu personol ganddynt. Yn y dechrau roeddwn i'n eu rhoi i bobl am ddim. Wedyn cefais ffabrig hyfryd a roddwyd i mi gan wraig sy'n gwneud clustogau ac roeddwn i'n gobeithio codi £200 i elusennau.

“Mae'r wraig yn parhau i roi ffabrig i mi, ac rwy'n edrych ymlaen at eu gwneud. Mae'n rhoi rhywbeth i'w wneud i mi ac nid wyf yn diflasu ar y gwaith o gwbl. Er, weithiau nid oes digon o oriau yn y dydd. Cyhyd ag y byddaf yn parhau i gael y ffabrig, byddaf yn parhau ac yn rhoi i elusennau eraill am fod pob elusen yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd.”

Mae ei merch Toni Evans wrth ei bodd â'r hyn y mae ei mam wedi'i gyflawni. Dywedodd: “Rwy mor falch. Mae hi bob amser yn gwneud pethau i bobl eraill. Mae hi'n arwr di-glod yn yr amseroedd od hyn.

Mae Diane wrth ei bodd â'r cymorth y mae wedi ei gael er mwyn gwneud yr eitemau i'r elusen. Hoffai ddiolch i Diane Rogers sydd wedi rhoi llawer o ffabrig, Ocean Hair a Little & Large Lite Bites.

Mae'r masgiau'n costio £4 ac mae'r amddiffynwyr wyneb yn costio £3.

O ganlyniad i gyfyngiadau hylendid y llywodraeth, mae'r masgiau ar gael o siop trin gwallt Ocean Hair yn Brewery Terrace, Saundersfoot.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De Cymru Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch o galon i Diane am godi arian gwerthfawr, nid i Ambiwlans Awyr Cymru yn unig, ond i elusennau eraill hefyd. Yn ystod y pandemig, mae llawer o elusennau megis ein helusen ni wedi profi gostyngiad sylweddol o ran rhoddion. Mae'r cymorth a gawn gan bobl megis Diane yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac yn sicrhau bod modd i ni barhau i wneud ein gwaith sy'n achub bywydau 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.”