Cyhoeddwyd: Dydd Iau 9 Mawrth 2023

Pan mae'n dod i drwsio nwyddau trydanol nad ydych eu heisiau, nid oes lawer o eitemau na all y gwirfoddolwr Ian Ware wneud rhywbeth gyda nhw.

Mae hyd yn oed wedi adeiladu ei stordy ei hun ar islawr Siop Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ym Mangor.

P'un ai'n trwsio tegelli, tostwyr, teledu, oriorau neu hyd yn oed sgwteri symudol, mae Ian yn dweud na fyddai'n taflu unrhyw beth oni bai ei fod o wedi trio ei drwsio.

Bob wythnos bydd Ian fel arfer yn yr islawr hwnnw, yn trwsio eitemau trydanol y gellir eu gwerthu am elw yn y siop.

Ymunodd y tad i un sy'n 72 mlwydd oedd ac wedi byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn am dros 30 mlynedd â'r elusen ar ôl ymddeol o'i waith mewn labordy patholeg mewn ysbyty.

Gan weld cyfle, perswadiodd Ian ei gyn-reolwr y dylai fynychu cwrs profi PAT. Bydd profion PAT yn cael eu cynnal pan fydd eitemau trydanol yn cael eu gwirio er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn ddiogel ac yn gweithio'n iawn.

Dywedodd: “Roedden ni'n cael cymaint o eitemau trydanol, felly yn hytrach na thalu am brawf PAT ar bob eitem, awgrymais y dylen ni wneud y profion PAT ein hunain yn y siop gan y byddai hynny am ddim. 

“Fe wnes i'r cwrs a chael fy nghymhwyster a dechrau profi PAT 30 i 40 o eitemau mewn bore. Os oedd yno broblem syml, yna byddwn yn eu trwsio'n gywir ac yn ddiogel a byddent yn mynd i'r siop i gael eu gwerthu. 

“Roeddem yn cael yr holl bethau trydanol hyn yn y siop yn gyflym ac roedd y cyfan yn gwerthu gan wneud elw da i ni. Cawsom hyd yn oed gwsmeriaid yn dod yn ôl i'r siop yn edrych am fwy o eitemau trydanol.” 

Fel Ian, fe wnaeth y cyn-wirfoddolwr Waynne Cooper hefyd gwrs Profi PAT a nawr mae'r ddau yn helpu i roi bywyd newydd i hen eitemau trydanol.

Hyd yn hyn, maent wedi cwblhau o gwmpas 1,600 o brofion PAT, gan arbed tua £2,500 i'r elusen.

Dywedodd Ian ei fod yn cael boddhad mawr o drwsio rhywbeth a fyddai wedi cael ei daflu fel arall.

Dywedodd: “Dwi'n casáu gweld gwastraff. Os fedra i ei drwsio, yna ei drwsio y byddaf. Efallai mai dim ond rhan fach sydd ei angen arno ac os felly byddaf yn mynd i weld a alla i gael y rhan ac yn ei drwsio. Mae'n dipyn o her i ddweud y gwir. Ond mae gen i fy nherfynau. Os nad ydw i'n meddwl y gallaf ei drwsio'n dda neu os oes gen i unrhyw amheuon, yna bydd yn cael ei daflu.

“Rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae taflu pethau'n gyffredin, lle y bydd pobl yn aml yn cael gwared ar rywbeth ddim ond am eu bod am gael model mwy diweddar yn unig. Rydym hyd yn oed wedi cael eitemau trydanol sydd heb gael eu tynnu allan o'r bocs, gan gynnwys hwfers Dyson newydd.

“Rydym yn cael llawer o eitemau trydanol i mewn sydd ddim yn gweithio, ond yn aml iawn dim ond rhywbeth bach sydd angen ei wneud iddynt. Y dyddiau hyn, yn aml mae'n haws ac yn rhatach i bobl brynu eitem newydd yn hytrach na thalu i rywun ei drwsio.

“Roedd adeg yn y gorffennol lle y gellid mynd i siop gymuned leol a chael rhywun i drwsio rhywbeth i chi, yn fawr neu'n fach. Ond yn anffodus, mae'r bobl hyn yn brin iawn. 

“Fel gwirfoddolwr does dim angen i mi boeni am amser. Os na allaf drwsio unrhyw beth fydd e ddim yn costio unrhyw beth i'r elusen a bydd naill ai'n cael ei daflu neu ei ailgylchu. 

“Mae'n deimlad braf trwsio rhywbeth ac yna gweld rhywun yn cerdded i ffwrdd gyda'r eitem honno o'r siop. Mae'n fantais i bawb - i'w cwsmer sydd wedi cael eitem drydanol ddiogel am bris rhesymol ac i'r Elusen. Mae'n debygol y bydd y cwsmer yn dychwelyd am fwy o eitemau trydanol, gan wybod eu bod yn prynu nwyddau dibynadwy a diogel ond hefyd yn helpu i ailgylchu eitemau na fyddai'n gallu cael eu defnyddio fel arall.”

Mae Ian yn sicrhau bod pob set deledu yn cael ei gwerthu gyda theclyn rheoli o bell sy'n gweithio a set lawn o fatris yn ogystal â thrwsio oriorau a chlociau.

Dywedodd: “Sylweddolais 'mod gen i dalent o ymchwilio teclynnau rheoli setiau teledu o bell a fy mod i'n gallu gwneud elw da i ni ohonynt. Cawsom set deledu 42 modfedd i mewn, ond doedd ganddi ddim stand na theclyn rheoli o bell. Llwyddais i ffeindio'r union stand ar eBay a dod o hyd i declyn rheoli o bell. Gwnaethom £50 o elw ac fe'i gwerthwyd o fewn yr wythnos. Roedd hynny'n arbennig o foddhaol.

“Dwi hefyd wedi cael oriorau sydd wedi bod yn werth £150 i £200 ac wedi gwneud elw sylweddol arnynt drwy newid y batris yn unig.

“Unwaith, fe wnes i ddod i mewn ac roedd bag am oes yno yn cynnwys oriorau ffasiwn newydd sbon yn yr islawr. Mae'n rhaid bod dros 100 ohonynt, pob un yn eu bocsys gwreiddiol, ond doedd y batris ddim yn gweithio. Newidiais bob batri a chafodd pob un ei gwerthu. Dim ond tua £10 y gwnaethom ei wario arnynt ond gwnaethom elw o tua £800. Dair wythnos yn ddiweddarach, gadawyd 100 oriawr arall i mi!”

Dywedodd Ian, neu Ian Electrical fel mae'n cael ei adnabod yn y siop ym Mangor, ei fod wedi mwynhau gwirfoddoli erioed a'i fod yn cael boddhad o wneud.

Dywedodd: “Mae'n hawdd iawn eistedd gartref a gwneud yr un peth o hyd pan fyddwch wedi ymddeol. Dydw i ddim fel arfer yn eistedd heb unrhyw beth i'w wneud, dwi'n hoffi cadw'n brysur. Mae gwirfoddoli gydag Ambiwlans Awyr Cymru yn rhoi ffocws i'r wythnos a dwi'n meddwl bod fy ngwraig Barbara yn mwynhau cael bore iddi hi ei hun gyda fi allan o'r ffordd!

“Mae'n beth da bod allan mewn amgylchedd gwahanol, cyfarfod pobl newydd a dysgu sgiliau newydd. Mae criw da yn y siop ym Mangor ac mae gan bob un ohonom resymau ein hunain dros wirfoddoli.

“Dydych chi byth yn gwybod pryd fyddwch chi angen hofrennydd yr ambiwlans awyr ac mae gwirfoddoli yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.”

Oriorau mae Ian yn eu trwsio gan amlaf, ond mae hefyd wedi ychwanegu sgil arall i'w dalentau - trwsio ffidlau. Mae wedi defnyddio ei gariad tuag at yr offeryn i newid tannau a rhoi pontydd newydd ar ffidlau sy'n cyrraedd y siop.

Hefyd mae wedi trwsio argraffydd proffesiynol, sgwter symudedd a sedd ogwyddo.

Dywedodd: “Dydych chi byth yn gwybod beth a ddaw i mewn, ond dwi bob amser yn hapus i roi cynnig arno. Feddyliais i erioed cyn ymddeol y byddwn yn trwsio pethau fel sedd ogwyddo, ond mae'n wych parhau i ddysgu bob amser.

“Fel dyn gofalus o'i arian o Swydd Efrog mae'n rhoi boddhad mawr i mi weld rhywbeth fyddai'n cael ei daflu a gwneud arian allan ohono i helpu i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ac yn y pen draw yn helpu i achub bywydau pobl.”