Cyhoeddwyd: 08 Ionawr 2024

Os hoffech roi anrheg y Nadolig hwn a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun, beth am ddod â dymuniad Nadolig Jack yn wir?

Cafodd bywyd Jack Howells ei achub gan feddygon Ambiwlans Awyr Cymru pan oedd yn 2 oed, ar ôl iddo ddioddef o anaf catastroffig i'r pen 10 mis yn ôl.

Gyda chefnogaeth y teulu Howells, lansiodd yr Elusen ei Hapêl Codi Arian y Nadolig fis diwethaf, sef Dymuniad Nadolig Jack. Dymuniad Jack yw gweld pobl yn gwneud rhodd i'r elusen Cymru gyfan.

Fis Chwefror diwethaf, daeth hunllef rhieni Jack bach, Jess, 29 oed a Jamie, 36 oed, yn wir pan gwympodd a tharo ei ben ar y llawr.

I ddechrau, roedd rhieni Jack yn credu fod y gwymp fel unrhyw ddamwain nodweddiadol plentyn bach arall, ac y byddai'n teimlo'n well ar ôl ychydig o swsys a mwythau. Ond roedd greddf Jess yn gryf, ac roedd hi'n amau bod rhywbeth o'i le. Yn fuan wedyn, dechreuodd Jack ddrysu a blino, felly aethant ag ef i'r adran ddamweiniau ac achosion brys iddynt gael golwg arno.

Yn anffodus, gwaethygu wnaeth cyflwr Jack pan oeddent ar y ffordd wrth iddo ddechrau taflu i fyny, felly daethant â'r car i stop ar ochr y ffordd a ffonio 999 ar unwaith. Dirywiodd ei gyflwr yn gyflym, a pharhaodd Jack i fod yn sâl hyd nes yr oedd yn welw, llipa, ac yn anymatebol.

Galwyd ar Ymatebwyr Cyntaf a pharafeddygon Llanelli, ac oherwydd difrifoldeb cyflwr Jack, galwyd am gefnogaeth Ambiwlans Awyr Cymru. Oherwydd tywydd gwael y diwrnod hwnnw, bu'n rhaid i'r timau gofal critigol weithredu o'r fflyd o gerbydau ymateb cyflym yr Elusen, yn hytrach na'r hofrenyddion.

Ar ôl cyrraedd, roedd Dr Mike, a Rhyan yr Ymarferydd Gofal Critigol, yn poeni bod gan Jack waedlif ar ei ymennydd. Er mwyn amddiffyn ei ymennydd a rhoi'r cyfle gorau posibl i Jack oroesi, rhoddodd y criw anesthetig cyffredinol iddo, a meddyginiaeth i helpu i leihau'r gwaedlif, a'i roi ar beiriant anadlu i reoli ei anadlu.

Roedd Jack wedi dioddef o waedlif enfawr yn ei ymennydd ac roedd wedi torri ei benglog, a bu'n rhaid iddo gael niwrolawdriniaeth brys. Ers iddo gwympo, mae Jack wedi gwella'n anhygoel ac wedi cyrraedd ei holl gerrig milltir.

Dywedodd Jess, mam ddiolchgar Jack: "Nid oes llawer o bobl yn sylweddoli bod Ambiwlans Awyr Cymru yn Elusen, ac er ein bod wedi bod yn gefnogwyr ers blynyddoedd, ni wnaethom fyth ddychmygu y byddai angen y gwasanaeth arnom ryw ddiwrnod i achub bywyd ein bachgen bach.

"Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi rhoi'r anrheg orau erioed i ni y Nadolig hwn. Maent wedi achub Jack a rhoi dyfodol iddo.

"Tra byddwn yn treulio tymor y Nadolig gyda'n gilydd fel teulu, yn creu atgofion efallai na fyddent wedi bod yn bosibl eu creu heb yr Elusen, byddwn hefyd yn meddwl am y rheini sy'n treulio eu Nadolig yn helpu eraill."

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus.  Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Aeth Jess ymlaen i ddweud: "O hyn ymlaen, bob Noswyl Nadolig pan fydd Jack yn edrych i fyny ar yr awyr am Siôn Corn a'i geirw, bydd hefyd yn chwilio am hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru, gan wybod eu bod wedi helpu i achub ei fywyd.

“Bydd llawer o blant yn gofyn am deganau gan Siôn Corn, ond dymuniad Nadolig Jack yw bod yr Elusen yn gallu parhau i achub bywydau a helpu pobl.

"Helpwch i ddod â'i ddymuniad Nadolig yn wir a chyfrannwch at y gwasanaeth hwn sy'n achub bywydau. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei angen arnoch chi neu'ch anwyliaid.”

Os hoffech ddod â dymuniad Nadolig Jack yn wir, gallwch gyfrannu drwy fynd i  walesairambulance.com/achristmaswish.