Mae dawns lwyddiannus Sir Drefaldwyn wedi codi dros £5,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. 

Cynhaliwyd y digwyddiad, a drefnwyd gan Holly Spurr, yn Neuadd y Dref Trefaldwyn yn gynharach yr haf hwn. 
Targed Holly, y milfeddyg, oedd codi ymwybyddiaeth o Ambiwlans Awyr Cymru yn ei hardal leol ac roedd am gynnwys cymaint o fusnesau lleol â phosibl.

Gyda chymorth gan ei mam, Sue, llwyddodd i gynnal noson lwyddiannus, a oedd yn cynnwys pryd tri chwrs, raffl, ocsiwn addewidion a cherddoriaeth byw. Roedd ganddi hefyd ychydig o hysbysebion hefyd er mwyn i noddwyr y digwyddiad hyrwyddo eu hunain.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac roedd wedi gwerthu allan cyn gynted ag y gwnaeth bobl glywed amdano.

Dywedodd Holly: “Doeddwn i ddim yn credu pa mor gyflym y gwnaeth y digwyddiad werthu allan. Doedd gennym ni ddim hyd yn oed amser i osod posteri neu i ddosbarthu taflenni. Mae'n dangos pa mor awyddus oedd ein cymuned leol i gefnogi achos mor bwysig.

“Roeddem i gyd wedi cael amser gwych ac roedd yn arbennig iawn cael cerdded i mewn i ystafell a'i gweld wedi'i goleuo i gyd. Roedd yr ocsiwn yn hwyl wrth i'r bobl werthfawrogi'r ysbryd.

“Gwnaethom godi cyfanswm o £5,126.82 - sydd ddim yn ddrwg o gwbl am yr ymgais gyntaf roedden ni'n credu. Codwyd hyn rhwng arian y tocynnau, noddwyr, y raffl, yr ocsiwn a rhoddion ar ôl y digwyddiad ei hun. Roedd y bobl yn garedig iawn.” 

Penderfynodd Holly godi arian i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru am ei bod hi'n gweld gwaith hanfodol yr elusen drwy ei swydd. 

Dywedodd: “Fel milfeddyg, rwyf wedi dod ar draws sawl ffermwr, marchogion a'r rhai sy'n mwynhau cefn gwlad yn cael eu hachub gan Ambiwlans Awyr Cymru a dyma pam y mae'n golygu cymaint i fi. Rwy'n ymwybodol iawn y gallai hyn ddigwydd i fi rhyw ddiwrnod.

“Mae'r adborth rwyf wedi ei gael yn gadarnhaol iawn. Cafodd y bobl amser gwych ac roeddent yn gwybod eu bod yn gwneud gwahaniaeth i rywbeth pwysig. Ers y pandemig, does dim llawer o ddigwyddiadau fel hyn wedi bod ac roedd yn teimlo fel petai pawb yn dod at ei gilydd eto. 

“Roeddwn i'n falch iawn ein bod wedi gwneud hyn, ac rwy'n credu bod fy mam wedi mwynhau hefyd ar ôl dadflino! Byddwn i'n sicr yn gwneud hyn eto.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru, a sefydlwyd yn 2001, yn wasanaeth Gymru gyfan sydd wedi cwblhau dros 46,000 o alwadau ers hynny. Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a gaiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). 

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. 

Dywedodd Jane Griffiths, Uwch-swyddog Cymunedol a Rheolwr Corfforaethol gydag Ambiwlans Awyr Cymru: “Da iawn i Holly a'i mam Sue am drefnu digwyddiad mor llwyddiannus ac am dynnu sylw at waith ein helusen sy'n achub bywydau.

“Mae codi dros £5,000 yn ei digwyddiad cyntaf yn anhygoel, a dylai Holly deimlo'n falch iawn ohoni'i hun. Bydd eich rhodd yn helpu'r Elusen i wasanaethu pobl Cymru ac i achub bywydau, 24 awr y dydd.”