Bydd mam-gu ddewr o'r Trallwng, ynghyd a chyflogai Ambiwlans Awyr Cymru, yn hedfan ar eu traed y mis hwn i godi arian ar gyfer elusen sy'n achub bywydau.

Yn ymuno â gwirfoddolwr Ambiwlans Awyr Cymru, Janice Jackson, sy'n 74 oed, bydd un o swyddogion codi arian cymunedol yr Elusen, Dougie Bancroft, i gymryd rhan yn y gweithgaredd difyr o hedfan ar eu traed i'r gwasanaeth hofrenyddion sy'n achub bywydau. 

Mae Janice a Dougie wedi codi dros £600 hyd yma ac maent yn gobeithio cyrraedd eu targed o £1,500.

Mae Janice wedi gwirfoddoli i'r Elusen ers dros 5 mlynedd ac mae'n frwd dros gefnogi'r gwaith y mae'n ei wneud. Mae eisoes wedi codi dros £6,000 drwy gynnal digwyddiadau lleol.

Dywedodd: “Rwy'n mynd i hedfan ar fy nhraed i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd rwy'n gweld y gwaith anhygoel y mae'r elusen yn ei wneud i achub bywydau. Rydw i bob amser wedi bod eisiau gwneud; ond a minnau nawr yn fy saithdegau rwy'n barod i'w wneud!

“Roeddwn i am wneud rhywbeth gwahanol a dewr. Rwy'n edrych ymlaen at hedfan ar fy nhraed i godi ymwybyddiaeth ac arian i'r elusen anhygoel hon.”

Dyw heriau difyr ddim yn beth newydd i Dougie. Mae eisoes wedi cwblhau naid parasiwt, naid bungee, sleidiau gollwng, marathonau a hyd yn oed wedi eistedd mewn bath o gwstard am ddiwrnod a gosod record byd newydd!

I Dougie, mae wedi bod yn her ddwbl. Roedd yn rhaid iddo golli 2 stôn 11 pwys i hedfan ar ei draed.

Dywedodd: “Rwyf wedi gwneud llawer o bethau, ond rwyf bob amser wedi bod eisiau gwneud hwn. Mae'n edrych yn rhywbeth sy'n dipyn o hwyl a bydd yn helpu i godi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru, yn ystod cyfnod mor hanfodol. Roedd 2020 yn flwyddyn anodd gyda COVID-19 a'r cyfyngiadau, felly mae angen i ni gefnogi'r Elusen yn fwy nag erioed. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymateb i bron 40,000 o alwadau ac wedi achub nifer o fywydau. Rwyf wedi gweld yr hyn y mae'r Elusen yn ei wneud ac mae'n anodd ei gyfleu mewn geiriau, felly ewch ati i roi arian ac achub bywyd. Mae'n ben-blwydd arni – 20 mlynedd ledled Cymru.”

Roedd disgwyl i Janice hedfan ar ei thraed y llynedd ond cafodd ei ohirio oherwydd pandemig y coronafeirws. Bydd y ddau yn hedfan ar eu traed ddydd Llun, 23 Awst yn 'Aero Super Batics' yn Cirencester, Swydd Gaerloyw.

Ar ôl aros blwyddyn i hedfan ar ei thraed, mae Janice yn edrych ymlaen ato. Ychwanegodd: “Dydw i ddim yn teimlo'n nerfus. Mae pawb yn fy nheulu yn meddwl fy mod i'n wallgof, ond rwyf bob amser wedi bod eisiau ei wneud. Rwy'n mynd ar bob reid mawr gyda'm hwyrion a'm hwyresau – maen nhw i gyd yn sgrechian tra fy mod i'n mwynhau.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Janice a Dougie drwy roi arian iddynt drwy eu tudalennau codi arian:

Dougie's Wing Walk  

Janice’s Wing Walk  

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion   Brys      y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.