Mae dyn ysbrydoledig o Gonwy, y cafodd ei fywyd ei achub gan feddygon Ambiwlans Awyr Cymru, wedi codi £1,000 ar gyfer yr elusen fel arwydd o ddiolch.

Yn 2012, bu Daniel Gahan mewn damwain car a achosodd iddo dorri 15 asgwrn – gan gynnwys ei wddf, a bu rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei galon. Cafodd Daniel ei hedfan gan Ambiwlans Awyr Cymru o'r Ysbyty ym Mangor i Ysbyty Athrofaol Stoke.

Ers y ddamwain, mae Daniel sy'n 26 oed wedi bod yn byw gydag anaf gydol oes i'w ymennydd ac mae'n dioddef poen yn ddyddiol.

Er gwaethaf yr heriau dyddiol mae Daniel yn eu hwynebu, gosododd her i'w hun o redeg Hanner Marathon Eryri cwta chwe mis ar ôl iddo ddechrau rhedeg. Gosododd Daniel yr her hon i'w hun o gwblhau hanner marathon er mwyn colli pwysau, a llwyddodd i golli 5 stôn mewn llai na blwyddyn sy'n anhygoel.

Wrth feddwl am ei gyflawniad, dywedodd Daniel a oedd ar ben ei ddigon: “Mae codi £1,005 yn wych, yn arbennig gan fy mod wedi codi'r swm hwn o arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a achubodd fy mywyd. Roeddwn eisiau diolch iddynt am achub fy mywyd, a gwella fy ffitrwydd.

“Roedd yr hanner marathon yn heriol, yn enwedig gan fy mod i'n cael poenau cyson. Roedd yn anodd! Rwy'n falch fy mod wedi llwyddo i gwblhau'r hanner marathon – nid oes llawer o bobl yn goroesi'r hyn a brofais i.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dyma'r tro cyntaf i Daniel godi arain, a hoffai ddiolch i'w deulu a'i ffrindiau am roi arian tuag at yr achos da, ac am eu cefnogaeth ers ei ddamwain.

Ymwelodd Daniel â chanolfan yr Elusen yng Nghaernarfon lle cyflwynodd siec gwerth £1,005 i Alwyn Jones, swyddog codi arian cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Alwyn: “Llongyfarchiadau mawr i Daniel, nid yn unig am godi dros £1,000 ar gyfer ein helusen sy'n achub bywydau, ond am ymrwymo i redeg hanner marathon ar ôl popeth mae wedi'i wynebu. Mae gan Daniel brofiad uniongyrchol o'r gwaith anhygoel y mae ein meddygon yn ei wneud. Mae Daniel yn ysbrydoliaeth, er gwaethaf yr hyn mae wedi'i ddioddef, roedd eisiau gwneud rhywbeth i rywun arall a dylai fod yn falch iawn o'i hun. Bydd ei rodd yn ein helpu i sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Diolch yn fawr hefyd i bawb sydd wedi cefnogi Daniel wrth iddo godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Da iawn, pawb.”