Cyhoeddwyd: 20 Mai 2024

Mae tad o Abergwesyn wedi gosod her enfawr iddo'i hun i ddringo Gran Paradiso (4061 metr o uchder), ac yna'r mynydd uchaf yn yr Alpau er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd Daniel Hartford, 41 oed, sy'n rhedeg fferm ddefaid ac eiddo mawr gyda'i ddyweddi, yn rhoi cynnig ar yr her ym mis Gorffennaf. Bydd Daniel yn treulio chwe diwrnod yn yr Eidal ac yn Ffrainc, lle bydd yn ceisio dringo'r 4061 o fetrau i gyrraedd Gran Paradiso, ac yna 4805 o fetrau ychwanegol er mwyn cyrraedd Mont Blanc.

Mae angen i elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd.

Mae Daniel wedi gosod targed codi arian iddo'i hun o £500, ac wedi codi swm anhygoel o £235 yn barod ar gyfer yr achos.

Roedd Daniel, sydd wedi byw yng Nghymru ers dwy flynedd, eisiau codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl gweld ei hun pa mor bwysig yw gwasanaethau'r ambiwlansys awyr. Mae rhieni Daniel, ar wahanol adegau, wedi bod angen help gan ambiwlansys awyr eraill y tu allan i Gymru.

Yn dilyn sawl llawdriniaeth a thriniaethau, mae'r ddau bellach yn gwneud yn dda.

Dywedodd: "Er bod hwn yn her bersonol i mi, byddwn wir yn hoff o godi cymaint o arian â phosibl ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei hangen arnom i achub bywyd.

"Mae cael ambiwlans awyr yn hanfodol mewn lleoliadau anghysbell, a'r ffordd orau i achub bywyd rhywun yw cael y gwasanaeth hanfodol hwn."

Bydd Dewi Evans, sy'n ffermwr da byw o Langamarch, yn ymuno â Daniel Hartford ei ffrind, a'r tad i dri, ar yr her hon. Bydd Dewi yn codi arian ar gyfer elusen wahanol sy'n agos at ei galon - Ymchwil Canser Cymru.

Mae'r ddau wedi bod yn ymarfer yn galed er mwyn paratoi at yr her enfawr, gyda'r rhan fwyaf o'u penwythnosau'n cael eu treulio yn dringo mynyddoedd fel yr Wyddfa, Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria. Maent hefyd wedi gosod her iddynt eu hunain i gymryd rhan yn Her Tri Chopa Cymru.

Mae Dan a Dewi wedi trefnu i ymgymryd â'r digwyddiadau hyfforddiant canlynol i baratoi; Dyn v Ceffyl yn Llanwrtyd fel rhan o dîm ras cyfnewid, Her Deg Copa Cymru, ac os bydd amser, byddant hefyd yn anelu at gymryd rhan yn y 'Welsh 3000s' mewn 24awr.

Dywedodd Daniel: “Rwy'n edrych ymlaen at yr her yn fawr iawn! Rwyf bob amser wedi mwynhau bod yn y mynyddoedd. Pan roeddwn i'n blentyn, byddai fy rhieni yn mynd â fy mrodyr a finnau ar wyliau i Ardal y Llynnoedd. Mae gennym lawer iawn o atgofion melys yn yr ardal, a'r holl amser a dreuliwyd gennym yno. O'r fan hyn y daw fy angerdd am y mynyddoedd. Roeddwn yn ffodus iawn o gael dechrau sgïo yn fy arddegau ac rwyf wedi bod yn sgïo bron pob blwyddyn ers hynny. Mae sgïo yn yr Alpau wedi rhoi'r cyfle i mi edrych ar yr holl gopaon enfawr yn llawn rhyfeddod, a pharchu unrhyw un sydd wedi bod â'r cryfder a'r meddylfryd i'w trechu ar droed."

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen.

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Dywedodd Hannah Bartlett, Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae Daniel wedi gosod her bersonol enfawr iddo'i hun, un y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei hosgoi. Mae wedi ymarfer yn drylwyr, ac rydym yn dymuno'r gorau i Dewi ac ef wrth iddynt fynd ati i gwblhau'r her er budd dwy elusen bwysig iawn. Mae Daniel yn gwybod o brofiad pa mor hanfodol yw ambiwlansys awyr, ac rydym yn falch iawn ei fod eisiau cefnogi'r gwasanaeth. Bydd ymgyrchoedd i godi arian fel un Daniel yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yno i bobl Cymru drwy'r dydd a'r nos.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Daniel drwy roi arian i'w dudalen JustGiving www.justgiving.com/page/daniel-hartford-1702718397894