Yn ogystal â helpu trigolion y Canolbarth gyda datrysiadau ynni, mae staff EOM yn y Drenewydd yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn codi arian y mae ei ddirfawr angen ar gyfer elusennau lleol.

Ym mis Hydref, cynhaliodd EOM ei gystadleuaeth pobi cacennau gyntaf, er budd ein helusen Ambiwlans Awyr Cymru leol. Tasg y cystadleuwyr oedd pobi cacen o'u dewis, ac roedd y cacennau'n amrywio o'r deisen Fictoria draddodiadol i gacen siocled triphlyg ac oren ar thema Calan Gaeaf. Roedd ymdeimlad gwych o dîm a balchder drwy gydol yr her, ac ysbryd cystadleuol iach ymhlith y pobyddion.  Beirniad y gystadleuaeth oedd yr uwch-ddarlithydd Arlwyo a Lletygarwch, Mandy Carter o Goleg Castell-nedd Port Talbot, a gafodd y dasg anodd o ddewis y tair cacen orau ar sail creadigrwydd, golwg a blas.

Y gacen fuddugol oedd y gacen siocled triphlyg ac oren ar thema Calan Gaeaf, gan Kezia Lloyd-Price. Gwerthwyd y cacennau wedi'r gystadleuaeth a chododd EOM £200 mewn rhoddion ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, a chafwyd rhodd o £100 gan Hager, cyflenwr datrysiadau dosbarthu trydanol ar gyfer prosiectau preswyl a masnachol.

Ddydd Mawrth 8 Mawrth, ymwelodd trefnydd y digwyddiad, Sammy Davies, ac enillydd y gystadleuaeth, Kezia Lloyd-Price, â chanolfan Ambiwlans Awyr Cymru ym Maes Awyr y Trallwng i gyflwyno siec am £300 i griw'r ambiwlans awyr.

Gwnaethant gwrdd â'r swyddog codi arian cymunedol, Dougie Bancroft, a chriw'r hofrennydd; Meddyg James a Pheilot Valentin, a oedd yn ddiolchgar iawn am y rhodd. Wrth rannu eu profiadau â'r cwmni, dywedodd y tri fod COVID-19 wedi cael effaith andwyol ar eu gwaith codi arian, a'u bod wedi colli allan ar fwy na £3 miliwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Dywedwyd bod pob galwad am yr ambiwlans awyr yr ymatebir iddi yn costio rhwng £1,500 a £2,000 yr awr, a bod unrhyw rodd, ni waeth pa mor fach, yn helpu i'w cadw yn yr awyr. Maent yn gwasanaethu Cymru gyfan, gan roi triniaeth i gleifion sydd wedi bod mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, sydd wedi dioddef trawma difrifol neu sydd wedi dioddef argyfwng meddygol fel strôc neu ataliad y galon.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol EOM, Mike Mills, “Roedd y gystadleuaeth pobi cacennau yn llwyddiant ysgubol ac yn llawer o hwyl. Cawsom gefnogaeth wych gan ein cydweithwyr a chyflenwyr lleol a roddodd yn hael, a gwnaethom werthu'r cacennau i gyd”. Aeth Mike ymlaen i ddweud, “Roedd hefyd yn gyfle gwych i gefnogi'r Ambiwlans Awyr, sy'n wasanaeth mor hanfodol yn y Canolbarth a'r tu hwnt, ac rwy'n edrych ymlaen at ragor o weithgareddau codi arian ar ei gyfer.”

Bydd EOM yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Byddai unrhyw roddion, ni waeth pa mor fach neu fawr, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Dywedodd Dougie Bancroft: "Diolch yn fawr iawn i staff EOM, a gododd y swm gwych o £300 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd y gystadleuaeth pobi cacennau yn swnio fel llawer o hwyl, ac rwy'n siŵr bod y cacennau'n flasus iawn hefyd. Bydd rhoddion fel hyn yn ein helpu i barhau i ddod â'r adran damweiniau ac achosion brys at y claf, ar ochr y ffordd, unrhyw le yng Nghymru. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru. Diolch am gymryd rhan ac am roi tuag at ein helusen sy'n achub bywydau."

Mae EOM yn gwmni adnabyddus hirsefydledig yn y Canolbarth sy'n cyflogi dros 40 o aelodau o staff, yn cynnwys seiri coed, trydanwyr, peirianwyr gwresogi nwy ac olew, plymwyr ac arbenigwyr gwaith allanol medrus ac ardystiedig. Mae'n cynnig gwasanaethau sy'n cynnwys pob agwedd ar gynnal a chadw eiddo, gosod a thrwsio paneli solar, cyflenwi a gosod larymau tân a goleuadau argyfwng, gosodiadau data, a gwaith gosod cyffredinol. Yn ddiweddar, mae'r cwmni wedi'i gymeradwyo i osod cyfarpar paneli solar ffotofoltaïg a phympiau gwres ffynhonnell aer.

Mae EOM, sydd wedi arbenigo ar osod cynhyrchion LoRaWAN mewn eiddo yn ddiweddar, yn awyddus i ddefnyddio technoleg newydd i awtomeiddio'r gwaith o fonitro larymau tân, carbon deuocsid a goleuadau argyfwng ac i weithredu cyfarpar o bell drwy ddangosfwrdd ar gyfrifiadur neu ffôn clyfar.

Am ragor o fanylion, e-bostiwch [email protected]