Mae cystadleuaeth gorawl mewn bragdy micro yn Sir Benfro wedi taro'r nodau perffaith unwaith eto drwy godi dros £2,800 i elusen.

Cynhaliodd cwmni bragu Bluestone eu Cystadleuaeth Gorawl Elusennol blynyddol yn eu bragdy micro yn Nhrefdraeth mis diwethaf er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Gofynnwyd i gorau lleol berfformio dwy gân o flaen y gynulleidfa a'r beirniaid, a oedd yn cynnwys un o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru, Ann Evans.

Rhoddwyd sgôr gan y beirniaid i bob un o'r corau, sef Bois y Felin, Cantabile, Lleisiau Pentref Llangwm, Côr Cymunedol Trefdraeth a Phentref Canu Llandudoch, a gyda'r nos coronwyd y côr buddugol - Bois y Felin - yn "Gôr cwmni bragu Bluestone y Flwyddyn".

Arweinwyd y noson llawn hwyl a bywiog gan y digrifwr stand-yp, Steffan Evans a'i chefnogi gan Cegin Cwm Gwaun. Cafodd yr holl arian a gasglwyd gan y tâl mynediad, casgliadau mewn bwcedi ac elw o'r bar eu rhoi fel cyfraniad i'r elusen sy'n achub bywydau.

Nid yw casglu arian at Ambiwlans Awyr Cymru yn rhywbeth diarth i'r cwmni - dyma'r bumed gystadleuaeth gorawl iddynt ei chynnal er budd yr elusen sy'n achub bywydau bob awr o bob dydd. Yn ogystal â'r gystadleuaeth gorawl maent hefyd yn cynnal nosweithiau cwis yn rheolaidd ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Dros y blynyddoedd mae'r cwmni wedi codi dros £10,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Emily Hutchinson, cyfarwyddwr cwmni bradu Bluestone: Rydym yn falch iawn o fod wedi codi £2,822. Mae'n deimlad gwych gallu rhoi swm mor anhygoel o arian i'r elusen ac yn adlewyrchu pa mor hael mae'r gymuned rydym yn byw ynddi. Mae ein ffrindiau a'n hymwelwyr hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd Ambiwlans Awyr Cymru ac rydym yn gwybod eu bod nhw i gyd yn fwy na hapus i gefnogi'r Elusen.

"Rydym yn byw mewn cymuned wledig ac felly'n gwybod pa mor bwysig yw gwaith Ambiwlans Awyr Cymru.Rydym ni fel teulu wedi gorfod galw am Ambiwlans Awyr Cymru fwy nag unwaith ac yn gwerthfawrogi'r gwaith gwych y maent yn ei wneud yn fawr. Buasem ar goll hebddynt. Mae hi'n hynod o bwysig, yn enwedig yn ystod yr amseroedd anodd yma yn ariannol, ein bod yn parhau i gefnogi gwasanaethau achub bywydau fel Ambiwlans Awyr Cymru cymaint ag y gallwn.

Mae gwasanaeth brys Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a gaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’, yn cynnig gofal critigol uwch. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Dywedodd James Cordell, Swyddog Codi Arian Cymunedol gydag Ambiwlans Awyr Cymru: "Roedd y gystadleuaeth gorawl flynyddol yn llwyddiant ysgubol unwaith eto. Mae cwmni bragu Bluestone wedi codi dros £10,000 i'n Helusen dros gyfnod o chwe blynedd, sy'n anhygoel. Mae'r Elusen yn agos at galonnau'r teulu wedi iddynt orfod galw am help Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth barhaus. Diolch i bawb a gymerodd ran neu a roddodd arian i'r digwyddiad codi arian gwych hwn.

“Rydym yn mynychu argyfyngau a all beryglu bywyd ac achosi anafiadau difrifol yn aml yn Sir Benfro.  Mae rhoddion fel hyn yn hanfodol a gwyddom pa mor bwysig yw ein gwasanaeth, yn enwedig i ardaloedd gwledig. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.