Mae cystadleuaeth golff lwyddiannus i ferched wedi codi swm anhygoel o £2,500 ar gyfer dwy elusen yng ngogledd Cymru.

Trefnwyd y gystadleuaeth elusennol yng Nghlwb Golff Caernarfon gan gapten presennol y merched, Iola Owen, er budd Ambiwlans Awyr Cymru a Tŷ Gobaith.

Cymerodd dros 100 o bobl ran yn y digwyddiad, a theithiodd golffwyr o gyn belled â Manceinion i gystadlu yn y gystadleuaeth elusennol.

Cafwyd llawer o gefnogaeth i'r digwyddiad elusennol gan fusnesau a phobl leol, a oedd yn hapus i gyfrannu tuag at achos da, noddi'r gystadleuaeth neu roi gwobr.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Wrth feddwl am y swm o arian a godwyd ar y diwrnod, dywedodd Iola, sydd wedi bod yn gapten ar y merched ers dwy flynedd: “Rwy'n falch iawn, cawsom ddiwrnod gwych a gwnaeth pawb fwynhau. Daeth merched o gyn belled â Manceinion i gymryd rhan – mae merched Clwb Golff Caernarfon yn teithio i chwarae ar gyrsiau gwahanol ac roedd yn braf gweld y merched o Fanceinion yn cystadlu. Roeddwn wrth fy modd â'r swm o arian a godwyd. Mae pawb wedi bod yn garedig iawn, ac roedd y siopau a'r gymuned leol yn hapus i gyfrannu.”

Cynhaliwyd cinio i'r cystadleuwyr ar ôl y gystadleuaeth, a chyflwynwyd y gwobrau iddynt.

Dywedodd Alwyn Jones, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru:   “Diolch yn fawr i Iola Owen, Capten y Merched yng Nghlwb Golff Caernarfon am drefnu cystadleuaeth elusennol arbennig, a gododd gyfanswm o £2,500 i'w rannu rhwng dwy elusen bwysig. Denwyd llawer o bobl i'r gystadleuaeth golff wych hon, a gwnaeth pawb fwynhau. Bydd y rhodd o £1,250 yn helpu i sicrhau y gall ein meddygon barhau i fod yno ar gyfer pobl Cymru pan fydd angen ein help arnynt. Diolch yn fawr, bawb.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.