Bydd digwyddiad poblogaidd Gerddi Agored Pentyrch, sydd wedi codi mwy na £70,000 ers iddo ddechrau yn 1999, yn mynd rhagddo fis nesaf.

Nod y digwyddiad blynyddol, sy'n dangos gerddi godidog pentref Pentyrch, fydd codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru yn ogystal â phrosiectau sy'n gwella agweddau ar gymuned ac amgylchedd Pentyrch.

Cynhelir Gerddi Agored Pentyrch ar 3 a 4 Gorffennaf mewn modd sy'n cydymffurfio â chyfyngiadau COVID-19.

Mae'r digwyddiad wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ers tair blynedd, ac mae'n denu pobl o bob oedran sy'n awyddus i weld y gwaith rhagorol y mae trigolion Pentyrch yn ei wneud ar eu gerddi.

Gobaith y trefnwyr yw cael 14 o erddi eleni, yn ogystal â rhai ychwanegol ar gyfer y gerddi agored rhithwir.

Mae'r digwyddiad fel arfer yn denu rhyw 450 o ymwelwyr dros y penwythnos mewn blwyddyn dda. Cynhaliwyd y digwyddiad yn rhithwir am y tro cyntaf y llynedd o ganlyniad i gyfyngiadau'r coronafeirws, gan godi'r swm anhygoel o £1,289.47 i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Gerddi Agored Pentyrch wedi codi dros £5,000 i'r Elusen dros y tair blynedd diwethaf.

Roedd digwyddiad gerddi agored rhithwir y llynedd yn llwyddiant ysgubol, gan ddenu 759 o ‘ymwelwyr’ a chael bron i 29,000 yn edrych arnynt. Ar gyfer yr 21ain digwyddiad gerddi agored, cafodd yr ymwelwyr wledd o dros 30 o erddi, bob un yn wahanol o ran maint a steil yn ogystal â'r golygfeydd a geir, a phob un yn dangos gwaith caled a brwdfrydedd y perchnogion.

Wrth feddwl am y rheswm dros ddewis yr Elusen sy'n achub bywydau, dywedodd Helen Edwards: “Penderfynodd y garddwyr ar yr elusen yn ystod y cyfarfod cyffredinol blynyddol. Awgrymais Ambiwlans Awyr Cymru am fy mod wedi bod yn ymweld â mam, sydd mewn tipyn o oed, dros gyfnod o sawl wythnos yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, a sylweddolais pa mor aml roedd hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru yn glanio ar y to!

“Rydym wedi cynnal y digwyddiad bob blwyddyn ers 1999, ac eithrio blwyddyn y Gemau Olympaidd a Jiwbilî y Frenhines, a'r llynedd pan gawsom ddigwyddiad gerddi agored rhithwir. Ers hynny, rydym wedi codi mwy na £70,000.”

Bydd y gerddi ar agor rhwng 10am a 5pm ddydd Sadwrn, a rhwng 11am a 5pm ddydd Sul. Mae'r tocynnau yn costio £6 yr un i oedolion, a byddant ar gael ar y diwrnod yn Neuadd y Pentref, Pentyrch. Caiff plant ddod am ddim.

Bydd cyfle i brynu planhigion, yn ogystal â lluniaeth cartref blasus.

Dywedodd Elin Murphy, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen: “Mae'n bleser mawr gennyf glywed y bydd modd i'r cyhoedd fwynhau digwyddiad blynyddol Gerddi Agored Pentyrch unwaith eto. Diolch i'r holl arddwyr sy'n gweithio'n hynod galed drwy'r flwyddyn er mwyn paratoi eu gerddi at y digwyddiad i godi arian i'r Elusen a'r pentref. Rydym yn ei werthfawrogi'n fawr.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5. 

I gael rhagor o wybodaeth am Gerddi Agored Pentyrch ewch i www.pentyrchopengardens.wordpress.com