Yn ddiweddar, cyflwynodd staff Griffiths rodd o £310 i feddygon Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ym maes awyr Caernarfon.

Daw'r rhodd ar ôl i feddygon Ambiwlans Awyr Cymru gael eu galw i ddigwyddiad ar safle'r A55 Abergwyngregyn i Dai'r Meibion ym mis Rhagfyr 2021.

Ar ôl y digwyddiad, penderfynodd pwyllgor Achosion Da y safle, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o adrannau'r cwmni ar y safle, i gefnogi'r Elusen sy'n achub bywydau trwy godi arian.

Ar ôl codi miloedd o gennin Pedr oddi ar hyd y darn o'r A55 lle mae'r gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd, ac yn dilyn adborth gan y cyhoedd, bu modd i'r cyhoedd gael y bylbiau cennin Pedr am rodd ariannol.

Gwnaed rhoddion i sefydliadau cymunedol lleol eraill hefyd.

Cododd staff y contractwr peirianneg sifil ac adeiladu gyfanswm o £310 ac roedd dau aelod o'r pwyllgor wrth eu bodd o allu trosglwyddo'r siec i'r criw ac i'r swyddog codi arian cymunedol, Alwyn Jones yng Ngorsaf Awyr Caernarfon. Roedd y criw yn falch o gael y cyfle i dywys ei ymwelwyr o gwmpas yr hofrennydd, lle gwnaethant ddisgrifio ei nodweddion arbennig iawn.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Dywedodd Alwyn Jones, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae codi arian yn hanfodol i'n galluogi i barhau â'n gwasanaeth gofal arbenigol. Rydym wrth ein bodd bod y staff yn Alun Griffiths wedi bod mor rhagweithiol wrth godi'r arian yma, ac yn falch fod y staff a wnaeth ymweld â ni wedi cael y cyfle i gwrdd â'r criw hedfan a gweld yr hofrennydd yn agos. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at y £310 a godwyd i'n helusen sy'n achub bywydau. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.