Bydd un o Gynghorwyr Sir Ceredigion yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru – yr elusen a achubodd fywyd ei brawd.

Penderfynodd Ceris Jones, 27 oed, gael gafael yn ei hesgidiau rhedeg a chofrestru ar gyfer y ras 13.1 milltir ddydd Sul (1 Hydref) i godi arian i'r Elusen sy'n achub bywydau, ar ôl i'w brawd iau Calfyn fod mewn damwain ym mis Chwefror 2022.

Cafodd Calfyn, 24 oed, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a threulio 17 diwrnod ar Ward Gofal Uwch Niwrowyddoniaeth.

Dywedodd y cynghorydd Plaid Cymru, sy'n cynrychioli Ward Llanfihangel Ystrad: “Roedd yn gyfnod pryderus i'n teulu, a bu'n rhaid i ni gadw popeth i fynd gartref pan oedd fy rhieni gyda fy mrawd yng Nghaerdydd. Cafodd Calfyn ei ddamwain yn ystod COVID-19 ac roeddwn i'n feichiog gyda fy mab Dafydd.

“Fel teulu rydym wedi gweld droston ni ein hunain y gwaith hanfodol y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud, a byddwn yn ddyledus iddyn nhw am byth. Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd angen y gwasanaeth arnoch neu pwy fydd y nesaf a fydd ei angen.

“Galwyd am ddau hofrennydd at fy mrawd pan gafodd ei ddamwain ac efallai na fyddai'n fyw heddiw neu wedi gwella cystal heb y gwasanaeth hwn.”   

Dyma'r tro cyntaf i Ceris redeg hanner marathon a dywedodd ei fod yn benderfyniad digymell.

Dywedodd: “Roedd fy mab Dafydd yn dri mis oed pan benderfynais redeg Hanner Marathon Caerdydd. Roeddwn i'n gwybod bod angen i fi gadw'n fwy heini, ac roedd ychydig yn ddigymell.

“Roeddwn wedi ei wylio ar y teledu ac roedd fy mrawd yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, felly roedd yn teimlo'n addas i redeg yr hanner marathon ym mhrif ddinas Cymru. Dydw i erioed wedi rhedeg unrhyw beth yn fwy na 5km felly roeddwn i'n dechrau o'r newydd, cynyddu fy lefelau ffitrwydd a chwblhau'r milltiroedd.

“Dechreuais hyfforddi yn ôl ym mis Ionawr a doedd ddim yn ddrwg o gwbl. Roedd yn beth da cael rhywbeth i anelu ato. Gwnaeth y don wres cyn gwyliau'r haf arafu pethau am ei bod yn rhy boeth i redeg, ond mi wnes i ddal ati a cheisio mynd cymaint ag y gallwn.

“Roedd y rhan fwyaf o fy nheithiau rhedeg ar hyd promenâd Aberystwyth, ble rwy'n gweithio neu yn Llambed.”

Hyd yn hyn, mae Ceris, o Ddihewyd ger Aberaeron, wedi codi £1,553 i Ambiwlans Awyr Cymru. 

Dywedodd: “Mae pawb wedi bod mor hael â'u rhoddion, ac rwy'n gwerthfawrogi'r cymorth rwyf wedi'i gael gan bawb. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y ras a'r awyrgylch yng Nghaerdydd, sydd i fod yn wych.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu'n llwyr ar roddion gan y cyhoedd i godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Ceris, sy'n gweithio fel Ffisiolegydd Cardiaidd yn Ysbyty Bronglais yn ogystal â'i rôl fel cynghorydd sir, ei bod yn edrych ymlaen at groesi'r llinell derfyn o flaen ei theulu.

Dywedodd: “Rwyf wedi cwblhau'r hyfforddiant felly rwy'n gobeithio y gallaf fwynhau pob dim a chael blas ar yr awyrgylch ar y diwrnod. Pan fyddaf yn croesi'r llinell, rwy'n siŵr y byddaf yn teimlo rhyddhad a syndod, ond byddaf wedi cael ymdeimlad o gyflawni o wybod fy mod wedi rhedeg hanner marathon ac wedi helpu achos mor ardderchog.

“Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru wasanaeth mor ardderchog, a byddwn bob amser yn ddiolchgar am yr hyn a wnaethant i fy mrawd yn dilyn ei ddamwain. Heb eu gofal, eu triniaeth a'u cludiant cyflym i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gallai fod wedi bod yn stori hollol wahanol.”

I gefnogi Ceris rhowch arian iddi ar ei Thudalen Just Giving, Ceris Jones is fundraising for Wales Air Ambulance Charitable Trust (justgiving.com)