Mae côr o Lanelli yn gobeithio codi £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gynnal ei gyngerdd Nadolig rhithwir cyntaf erioed. 

Ar ôl blwyddyn anodd i bawb, mae Côr Curiad Llanelli wedi penderfynu rhannu hwyl yr ŵyl gyda'r cyhoedd yng nghysur eu cartrefi.

Nod y cyngerdd Nadolig yw cefnogi'r elusen sy'n achub bywydau, sef yr elusen a ddewiswyd gan Côr Curiad ar gyfer 2020, a chaiff ei gynnal ar Facebook nos Wener 18 Rhagfyr am 7pm.

Mae'r merched, a fydd yn perfformio rhai o'u hoff ganeuon Nadolig, yn hen gyfarwydd â chodi arian. Dros y deng mlynedd diwethaf, maent wedi codi dros £60,000 i Marie Curie a'r hosbis lleol, Tŷ Bryngwyn.

Mae gan y côr, a gafodd ei sefydlu dros 25 mlynedd yn ôl, 43 o aelodau. Mae mamau, merched a chwiorydd yn canu gyda'i gilydd yng Nghôr Curiad. Mae rhai aelodau yn byw y tu allan i Gymru hyd yn oed.

Cyn y pandemig, aeth y merched ati i godi arian ar ffurf dawns fasgiau, ffair Nadolig a chyngerdd Nadolig yn Eglwys y Plwyf, Llanelli.  Nid ydynt wedi gallu codi arian ers mis Mawrth gan nad oedd ymarferion, cyngherddau byw na digwyddiadau'n cael eu cynnal.

Gwnaethant ddechrau cynnal ymarferion yn yr awyr agored yn ddiweddar gydag uchafswm o 30 o bobl, yn dibynnu ar y tywydd, yn stadiwm pêl-droed Parc Stebonheath.

Dywedodd cadeirydd Côr Curiad, Andrea Matthews: “Rydym bob amser yn dod o hyd i ddatrysiadau. Rydym wedi penderfynu defnyddio'r rhyngrwyd erbyn hyn a byddwn yn cyhoeddi ein cyngerdd rhithwir cyntaf erioed. Gan nad ydynt yn gallu cynnal digwyddiadau byw, dyma oedd yr unig opsiwn. Dyma'r tro cyntaf i ni wneud hyn, ond yn ffodus iawn, mae gennym ffrind da iawn sy'n arbenigwr ar TG ac rydym wedi gallu cydweithio i drefnu'r cyngerdd. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau'r cyngerdd ac yn rhoi arian.

“Rydym yn gobeithio codi gymaint o arian â phosibl. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hollbwysig i ni. Yn sgil ein seilwaith, daearyddiaeth a'r ffaith fod gwasanaethau iechyd arbenigol yn cael eu canoli, mae'n gynyddol bwysig.’’

Bydd y cyngerdd, fydd yn para 40 munud, yn cynnwys fideos o gyngherddau blaenorol, clipiau o ffonau unigolion ac eitemau y recordiwyd yn ddiweddar yn dilyn y canllawiau llym ar gadw pellter cymdeithasol er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw'n ddiogel.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian yr Elusen ar gyfer De Cymru: ‘‘Mae'n braf clywed bod y merched o Gôr Curiad yn meddwl am ffyrdd gwahanol o ddiddanu'r cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn a'u bod hefyd yn llwyddo i godi arian i gymaint o elusennau. Rydym yn gwerthfawrogi eu cymorth yn fawr, a gobeithio y bydd sawl person yn gwylio'r cyngerdd ac yn ei fwynhau o gysur eu cartrefi.’’

Mae'r côr yn cynnwys merched o bob oedran a bydd Scarlet Esney Davies sy'n 12 oed, sef merch y cyfarwyddwr cerdd, Alex, ac aelod hynaf y côr, Mrs Chapman sy'n 90 oed, yn cymryd rhan yn y cyngerdd.

Mae'r côr wedi bod yn cynnal cyngerdd gala blynyddol yn Theatr Ffwrnes, Llanelli dros y blynyddoedd ac ymhlith y cantorion gwadd fu Paul Potts, Rhydian Roberts, Sam Bailey a seren y sioe gerdd, Phantom of the Opera yn y West End, Peter Carrie.

Os hoffech ymuno yn hwyl yr ŵyl, gallwch ddechrau eich dathliadau Nadolig drwy ymuno â grŵp ‘Côr Curiad’ ar Facebook.

Gallwch noddi'r merched ar eu tudalen codi arian ‘Côr Curiad Llanelli yn codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru’.