Mae cyngerdd er cof am Beryl Vaughan wedi codi mwy na £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Ym mis Tachwedd 2022, daeth criw o berfformwyr a cherddorion at ei gilydd mewn harmoni, i gofio bywyd Beryl Vaughan.

Cynhaliwyd y cyngerdd yn Eglwys Sant Illtyd yn Llanilltud Fawr ac roedd yn cynnwys amrywiaeth o artistiaid gan gynnwys Nicola Harris, Anne Braley, Charlotte Ellett, John Sadler, Sally Kingsbury, Tony Kingsbury, Sarah Morris a Chymdeithas Operatig Amatur y Bont-faen.

Roedd yr eglwys yn llawn emosiwn pan berfformiodd wyres Beryl, Isabelle, i'r gynulleidfa gan wisgo ffrog ei mamgu.

Bu farw’r fam i ddau o blant ym mis Medi 2021, a chafodd ei disgrifio fel person hardd, ymroddgar, cariadus a oedd yn cael ei haddoli gan ei theulu a’i ffrindiau.

Trefnwyd y digwyddiad gan ffrindiau'r teulu, Sally, Tony, Ryan Wood a sawl un arall ac maent wedi diolch i’r perfformwyr a’r Tad Edwin am gefnogi’r cyngerdd coffa.

Gyda chefnogaeth ffrindiau a theulu, cododd y cyngerdd £1,010 i Ambiwlans Awyr Cymru a gafodd arian cyfatebol wedyn fel rhan o Her Nadolig y Big Give.

Mae'r Big Give yn galluogi cefnogwyr i ddyblu eu rhoddion pan gânt eu gwneud o fewn cyfnod penodol o amser. Diolch i'r arian cyfatebol, cododd y digwyddiad fwy na £2,000 i Elusen Cymru gyfan.

Dywedodd Laura Coyne, y Swyddog Codi Arian Cymunedol: “Roeddem yn drist iawn i glywed am farwolaeth Beryl ac rydym yn meddwl am ei ffrindiau a’i theulu.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a gefnogodd y cyngerdd. Mae digwyddiadau fel hyn yn ein galluogi i barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fyddant ein hangen fwyaf.”

Daeth y noson i ben gyda recordiad o Beryl yn canu, ac roedd y gynulleidfa ar ei thraed yn cymeradwyo.