Cynhelir cyngerdd ac arwerthiant er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru yn Neuadd Gymunedol Llangadog fis nesaf.

Bydd y digwyddiad codi arian, sy'n cael ei drefnu gan Beth Davies o Lanwrda, yn cynnig cyfle i westeion fwynhau amrywiaeth o ddoniau gwahanol, gan gynnwys cerddoriaeth gan Joy Cornock, Rhiannon O'Connor ac “Ar Wasgar”.

Cynhelir arwerthiant hefyd fel rhan o'r noson a fydd yn cynnwys eitemau a roddwyd yn garedig gan lawer o fusnesau ac unigolion lleol. Yr arwerthwr ar gyfer y digwyddiad codi arian fydd Llyr Thomas, o Bontarddulais, sy'n gweithio fel arwerthwyr ac yn astudio yng Ngholeg Gelli Aur.

Cynhelir y cyngerdd ddydd Sadwrn 20 Tachwedd am 7:30pm.

Ar ôl ennill ei hysgoloriaeth fynediad yn 2004, dechreuodd Joy Cornock yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dyfarnwyd Gwobr Mabel Linwood Christopher, Gwobr Astudiaethau Lleisiol Lyn Davies a Gwobr Goffa Aneurin Davies iddi. Mae Joy wedi perfformio gydag Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru ac wedi ymgymryd â sawl rhan operatig, ac mae bellach yn unawdydd rheolaidd ledled y DU, Sbaen, yr Almaen ac Iwerddon.

Gwnaeth ei pherfformiad cyntaf fel telynores ac unawdydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o Gyngerdd Gala i ddathlu 60 mlynedd o Ffederasiwn y Ffermwyr Ifanc a theithiodd i Vancouver i berfformio yng Nghymdeithas Gymraeg Vancouver.

Dywedodd Beth: “Mae gennym dalent eithriadol yn cymryd rhan ar y noson. Mae Joy yn ferch ifanc dalentog iawn, sy'n hanu o Abergwaun, Sir Benfro, ac sydd wedi perfformio â chorau cydnabyddedig Côr Meibion Orffews Treforys, corau Dynfant, Llanelli, RFC Treforys ac Abergwaun, Côr Radio Latfia, yn ogystal â Chymdeithas Gorawl Rhydaman.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Mae Rhiannon O'Connor hefyd yn cymryd rhan yn y noson, sef merch ifanc arall dalentog iawn o bentref Ffarmers. Mae Rhiannon yn gantores/cyfansoddwr sy'n chwarae'r gitâr ac y mae galw mawr amdani. Mae wedi perfformio yng Ngŵyl Deuluol 'The Big Cwtch' ac mae'n canu caneuon gwerin acwstig yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Hefyd, bydd "Ar Wasgar" yn perfformio, sef grŵp meibion lleisiol yn cynnwys ffermwyr ifanc a oedd o ardal Pumpsaint yn wreiddiol, er bod rhai ohonynt bellach wedi symud i wahanol rannau o Sir Gâr. Maent wedi bod yn canu gyda'i gilydd ers dros ddeng mlynedd ar ôl dechrau yn y Clwb Ffermwyr Ifanc, ac maent yn canu amrywiaeth o ganeuon o'r sioeau cerdd i Dafydd Iwan."

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol. 

Gan fyfyrio ar y rhesymau pam roedd am godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Beth Davies: “Gan ein bod yn byw mewn cymuned wledig, rydym yn ymwybodol iawn y gallai fod angen cymorth a gwasanaethau'r sefydliad hanfodol hwn arnom ar unrhyw adeg a'i fod ar gael i ni 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 o ddiwrnodau'r flwyddyn, hyd yn oed yn ystod COVID-19 a'r cyfyngiadau symud. Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi parhau i ddarparu gwasanaeth clodwiw a chyson i bobl Cymru ac mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i'n cymuned ddweud diolch a chyfleu ein diolchgarwch hyd yn oed yn ystod cyfnod mor anodd."

Dywedodd Katie Macro, cydgysylltydd Gweithwyr Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: "Diolch i Beth am drefnu cyngerdd sy'n argoeli i fod yn ddigwyddiad arbennig i'r cyhoedd ei fwynhau. Rydym yn gwerthfawrogi eich amser a'ch ymdrech wrth gynllunio'r digwyddiad yn fawr. Rydym hefyd yn ddiolchgar i'r cerddorion, y perfformwyr a'r arwerthwr hynod dalentog a fydd yn perfformio'n rhad ac am ddim ar y noson. Diolch i bawb sydd wedi helpu Beth i drefnu'r cyngerdd ac am roi gwobrau. Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru. Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau'r cyngerdd a'r arwerthiant."

Pris y tocynnau yw £7 a gellir eu prynu gan Beth ar 07788 810464 neu gan Aaron yn Post Datum yn Llanymddyfri, Radcliff's Llanymddyfri, siop papurau newydd Morgan's, Llangadog, The Limes Stores, Llangadog neu gan Gina Deering yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri.

Hoffai Beth ddiolch yn fawr i'r perfformwyr a fydd yn perfformio'n rhad ac am ddim ac i Aaron yn Post Datum am argraffu'r tocynnau a'r posteri am ddim hefyd.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.