18/04/2023

Pan gafodd Chris Gerrard ddamwain beicio ofnadwy, hedfanodd Ambiwlans Awyr Cymru i'w helpu.

Wrth ymweld â Chymru ar daith beicio pum diwrnod yn 2015, gadawyd Chris Gerrard yn brwydro am ei fywyd.

Ar yr ail ddiwrnod, beiciodd Chris dros grid gwartheg diffygiol y tu allan i Fachynlleth, a'i adael ag anafiadau a oedd yn peryglu ei fywyd.

Dioddefodd Chris, o Swydd Gaer, waedlif ar ei ymennydd ac roedd angen ymyrraeth gofal critigol arno gan Feddygon Hedfan Cymru oedd gydag Ambiwlans Awyr Cymru. Wrth gyrraedd, rhoddwyd gwybod i Dr Matt O’Meara bod Chris yn cymryd tabledi sy'n teneuo'r gwaed.

Dywedodd Chris: “Ar adeg y damwain, roeddwn i'n cymryd warfarin - cyfrwng sy'n teneuo'r gwaed. Wrth gymryd y feddyginiaeth hon, gall unrhyw waedlif fod yn llawer mwy difrifol, yn enwedig gwaedlif i'r ymennydd.”

“Dywedodd un o'm ffrindiau wrth y meddygon am fy meddyginiaeth. Diolch byth, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael hyfforddiant cynhwysfawr ac maent yn cario cyfarpar ychwanegol i'r hyn y byddech yn ei weld ar ambiwlans ffordd. Roedd hyn yn cynnwys cyfrwng ceulo sy'n galluogi'r gwaed i geulo.”

“Heb y driniaeth yn y fan a'r lle, ni fyddwn i yma heddiw.”.

Cafodd Chris ei hedfan i ysbyty Brenhinol Stoke a threuliodd tua wyth wythnos yn yr ysbyty cyn dychwelyd adref i Macclesfield.

Dywedodd: “Pe na bawn i'n anymwybodol, byddwn i wedi cael fy nychryn o fod mewn hofrennydd.”

Mae'r damwain wedi gadael Chris gyda rhai anafiadau parhaol, megis colli ei olwg yn ei lygad dde a dim synnwyr arogli, ond mae o'n hynod ddiolchgar i'r rheini â'i helpodd ar y diwrnod ofnadwy hwnnw.

Dywedodd: “Byddaf yn ddiolchgar i Ambiwlans Awyr Cymru am byth am achub fy mywyd; ac yn ddiolchgar i Dr Matt a'r tîm."

Er mwyn diolch i'r elusen â'i helpodd, mae Chris, sy'n 68 oed, wedi penderfynu cwblhau taith feicio 234 milltir i godi arian hanfodol.

Pan ddigwyddodd y damwain nôl yn 2015 roedd Dave Bentley, Anthony Jackson, Wayne a Debbie Maxwell yn seiclo gyda Chris a byddant yn gwmni i Chris ar eu beiciau ar gyfer yr her anhygoel hon. Hefyd bydd aelodau newydd o'r Prestbury Wheelers and Pushers sef Nathan Scott, Rahim Hakimi, Howard a Georgie Phillips, Rob a Claire Thorneycroft a Will Jung yn ymuno â nhw.

Bydd y daith yn dechrau ddydd Sadwrn 17 Mehefin 2023 yn y Trallwng ac yn gorffen ddydd Mercher 21 Mehefin yn Macclesfield. Bydd y grŵp yn stopio mewn nifer o leoliadau yn cynnwys Betws Cedewain, Machynlleth, Bermo a Chaernarfon. Dyma'r union lwybr a gynlluniwyd nôl yn 2015.

Dywedodd Chris: “Y rheswm dros ddewis y llwybr hwn yr adeg honno oedd ein bod eisiau'r profiad o feicio ar hyd llwybr Mawddach ac i lawr i'r Bermo. Taith tri diwrnod oedd hon i ddechrau ond rydym wedi ychwanegu ychydig filltiroedd i seiclo'r holl ffordd adref.”

Dywedodd Dr Matt O’Meara, Meddyg Ymgynghorol Gofal critigol Ambiwlans Awyr Cymru: "Roedd adferiad Chris ar ôl y ddamwain yn rhyfeddol. Gwnaethom ei gyfarfod yng nghefn ambiwlans arferol a gyrhaeddodd ychydig o'n blaenau a dwi'n cofio meddwl pa mor wael oedd Chris. Yn union fel tywydd arferol Cymru, dechreuodd hi lawio'n drwm iawn ychydig cyn i ni baratoi Chris ar gyfer y daith yn yr hofrennydd, a dwi'n cofio meddwl pa mor wael oedd Chris. Cefais yr anrhydedd o gyfarfod Chris a'i wraig pan ddaethant i ymweld â chanolfan y Trallwng ac mae'n wych ei weld yn ôl i'w gyflymder llawn ar ei feic."

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Chris: “Mae'r daith beicio hon yn deyrnged i Ambiwlans Awyr Cymru, a dwi'n anelu at godi arian angenrheidiol.

“Mae angen y gwasanaeth hwn arnom. Un diwrnod efallai mai chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod fydd yn cael eu hachub. Does dim angen i chi fod yn seiclo nac yn gwneud unrhyw beth sy'n arbennig o beryglus i gael eich anafu'n ddifrifol. Cefnogwch y gwasanaeth hwn a rhowch arian i'n her.”

Dywedodd Jane Griffiths, Rheolwr Codi Arian Cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Chris a'i ffrindiau am ymgymryd â'r her hon i ni. Nid yw'n dasg hawdd i neb, ond mae'n hollol ysbrydoledig gweld Chris yn mynd yn ôl ar ei feic a chodi arian i ni. Pob lwc i'r rhai sy'n cymryd rhan a diolch.”

I roi arian i her Chris, ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/christopher-gerrard3.