Mae athro sy'n diolch i Ambiwlans Awyr Cymru am achub ei fywyd wedi codi dros £4,000 drwy ddringo Tri Chopa Cymru, ond mewn ffordd wahanol.

Dringodd Mike Hughes, 43 oed, Yr Wyddfa, Cadair Idris a Phen y Fan mewn 24 awr, ond hytrach na gyrru rhwng y mynyddoedd, teithiodd y pellter o 145 milltir ar ei feic.

Ymunodd grŵp o ffrindiau ag ef, gyda llawer ohonynt wedi cymryd rhan yn nigwyddiadau eraill Mike i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ac wedi ei helpu i godi miloedd o bunnoedd ar gyfer yr elusen sydd mor agos at galon Mike. 

Roedd angen i'r tad i ddau, sy'n wreiddiol o Dreuddyn ger Yr Wyddgrug ond bellach yn byw y tu allan i Gaer, gael triniaeth gan yr elusen sy'n achub bywydau yn ystod Rali Cambria yng Nghorwen yn 2005. Roedd Mike yn cyd-yrru Subaru Impreza pan adawodd y llwybr a sgrialu dros 100 troedfedd drwy'r goedwig, cyn stopio 30 troedfedd i lawr dyffryn serth.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau a oedd yn peryglu ei fywyd, gan ei adael mewn uned gofal dwys gyda thorthenni gwaed ar ei ymennydd. Dywedwyd wrtho y byddai'n cymryd 18 mis iddo wneud adferiad llawn, ond bedwar mis yn ddiweddarach roedd yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.

Ers y ddamwain 18 mlynedd yn ôl, mae addewid Mike i godi arian i'r elusen yn parhau ac mae wedi codi dros £60,000. 

Dywedodd: “Mae Tîm PeaktoPeak24 yn bennaf yn cynnwys ffrindiau o'r gymuned chwaraeon moduro, yn ogystal â ffrindiau gyda chefndir meddygol. Rydym oll yn sylweddoli pa mor bwysig yw Ambiwlans Awyr Cymru, beth y gallant ei wneud, a sut y gallant achub bywydau.

"Eleni, roedd yr her yn arbennig iawn. Er ein bod wedi cwblhau teithiau hir ar feic ledled Cymru yn y gorffennol, rydym yn hŷn ac yn fwy doeth erbyn hyn, felly roedd hyn yn swnio'n syniad braidd yn wirion!  Gwnaethom sylweddoli bod y mynyddoedd yn her fawr ynddynt eu hunain, ond bod ychwanegu'r teithiau beic â'u huchder cynyddol yn eich tywys yn agosach at ddringo Everest o'r gwersyll gwaelod, sydd braidd yn eithafol.

"Roedd y glaw trwm a gwynt cryf yn golygu bod bywyd ar Yr Wyddfa yn anodd, a gwnaethom gwestiynu sawl gwaith tybed a oedd y syniad yn un da, ond cyrhaeddom y copa a dychwelyd i'r man cychwyn i newid yn gyflym.

"Ond parhau i'n herio wnaeth y tywydd wrth i ni feicio i gyfeiriad Cadair Idris hefyd. Er gwaethaf dringo Cadair Idris drwy'r niwl ac yn y glaw, roedd hwyliau pawb yn dal yn uchel ond yn anffodus, bu'n rhaid i ni ffarwelio ag un o'r tîm am fod ganddo broblem fecanyddol.

"Oherwydd y tywydd, roeddem ar ei hôl hi, felly roedd y 100 + milltir nesaf ar y beics yn heriol. Mae teithio ar hyd Cymru mewn car yn heriol fel y mae, felly gallwch ond dychmygu pa mor heriol oedd beicio i fyny i Ddinas Mawddwy gyda gwynt blaen. Cyrhaeddom Aberhonddu wedi ymlâdd, ond gydag amser wedi'i ennill yn ôl. Cychwynnom am gopa Pen y Fan gyda'r criw cymorth ar gyfer dringfa olaf y diwrnod.

"Gwnaethom gwblhau'r her mewn 22 awr, gyda'r copa olaf yn gwbl wahanol i'r Wyddfa yn oriau mân y bore; Gwelsom olygfa fendigedig o'r haul yn machlud o Ben y Fan!"

Cododd y tîm £4,189 i Ambiwlans Awyr Cymru ac roedd Mike eisiau diolch yn bersonol i'w ffrindiau, Derwyn Roberts, Ianto Fon Jones, Pete Gray, Nathan Griffiths, Chris Spilstead, a'r tîm cymorth, Dylan Thomas, Merfyn Williams, Arwel Thomas a Tom Griffiths.

Dywedodd Mike, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Gatholig Ellesmere Port: "Mae'n wych cael eu cefnogaeth barhaus a gwn y byddai pawb, gan gynnwys fi fy hun, yn hoffi diolch i bawb a roddodd arian i'r her.

"Nid yw digwyddiadau fel hyn yn dod at ei gilydd yn hawdd, roedd yn ymdrech fawr gan y tîm. Mae angen ffrindiau da a'r awydd i wneud gwahaniaeth arnoch i gwblhau her o'r fath ac i godi'r arian."

Caiff gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei gyflwyno drwy bartneriaeth unigryw'r Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sy'n ofynnol bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: "Da iawn i Mike a'i ffrindiau am gwblhau'r her ryfeddol hon. Mae Mike bob amser yn dangos penderfyniad gwych ar gyfer pob her y mae'n ei hwynebu a byddaf yn rhyfeddu bob tro.

"O fod wedi profi buddion ein gwasanaeth yn uniongyrchol, mae'n parhau i gefnogi'r Elusen drwy ei ddigwyddiadau codi arian i helpu i ariannu ein galwadau, er mwyn i ni allu cynorthwyo eraill ar draws Cymru.

"Ni fyddem yn gallu cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd heb y rhoddion hael rydym yn eu derbyn gan bobl fel Mike, sy'n ein helpu i godi arian hanfodol i helpu i ariannu ein gweithrediadau."

Ychwanegodd Mike: "Roeddwn yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru cyn fy namwain, ond doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai eu hangen arna i. Gwnes addewid i mi fy hun wrth orwedd yn fy ngwely yn yr ysbyty, ddim yn gwybod lle roeddwn na phwy oedd fy rhieni, y byddwn yn cefnogi'r Elusen a achubodd fy mywyd am byth. Rwyf wedi bod yn lwcus o allu byw bywyd normal ac mae hynny oherwydd gweithredoedd Ambiwlans Awyr Cymru. Byddaf yn ddyledus iddyn nhw am byth.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru wir yn gwneud gwahaniaeth ac mae eu cefnogaeth yn wirioneddol ysbrydoledig.”