Mae aelod o Seiri Rhyddion Sarn Helen, a gafodd driniaeth gan Ambiwlans Awyr Cymru, wedi trefnu digwyddiad beicio er mwyn diolch i'r elusen sy'n achub bywydau.

Roedd Nicolas Sawyer, Trysorydd Sarn Helen, angen cymorth Ambiwlans Awyr Cymru yn 2006 ar ôl iddo ddioddef anaf i'w gefn wrth hwylio. Cafodd Nick ei hedfan o Ynys Lochtyn i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, lle arhosodd am wythnos.

Er mwyn diolch i'r elusen a'i helpodd, cafodd Nicolas o Aberaeron y syniad ar gyfer y Pelican Peloton.

Mae'r Pelican Peloton yn ras feicio gyfnewid a fydd yn cael ei chynnal mewn cymalau ar hyd ffordd Rufeinig Sarn Helen. Mae pob cymal tua 20 milltir o hyd, a gall ymgeiswyr ddewis cymryd rhan mewn un cymal neu mewn hyd at bump. Mae tri rhanbarth Seiri Rhyddion Rose Croix wedi cydlynu a chydweithio â'i gilydd (Dyfed, de Cymru a gogledd Cymru) er mwyn sicrhau y gall y digwyddiad fynd rhagddo.  

Gall ymgeiswyr ddewis o ddau lwybr gwahanol, gan naill ai gymryd rhan yng nghymalau 1 i 5 gan gychwyn o Gastell Conwy a gorffen yn Aberaeron, neu gymalau 6 i 10 a fydd yn cychwyn o Barc y Scarlets, Llanelli. Bydd y timau o feicwyr yn cydgyfarfod yn Aberaeron.

Cynhelir yr her ddydd Sul 22 Mai. Er mwyn cofrestru ar gyfer yr her, ewch i https://dyfedrosecroix.com/pelican-peloton/ a lawrlwythwch y ffurflen gofrestru. Mae'r ffi gofrestru yn £18 ar gyfer oedolion, ac am ddim ar gyfer rhai o dan 18 oed.

Mae'r digwyddiad hwn yn un arbennig iawn i Nicholas. Dywedodd “Ddeunaw mlynedd yn ôl, roeddwn i'n gorwedd ar draeth yng Ngorllewin Cymru ac yn dioddef o anaf cefn a ddigwyddodd i mi wrth hwylio o Aberaeron i Ynys Lochtyn. Galwyd Ambiwlans Awyr Cymru a chefais fy nghludo yn yr hofrennydd i Aberystwyth lle cefais fy nhrin yn yr ysbyty am wythnos. Rwyf wedi dioddef o boen cefn ers hynny, ond rwy'n hynod ddiolchgar i'r Elusen am fy achub. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i mi ad-dalu'r gymwynas.

”Cynlluniwyd y Pelican Peloton er mwyn dathlu hen ffordd Geltaidd/Rufeinig Sarn Helen, sy'n rhychwantu Cymru, o'r gogledd i'r de. Rydym yn gwahodd beicwyr o bob oed, rhyw a lefelau sgiliau i feicio ar hyd y ffordd gyfan mewn cymalau 20 milltir o hyd er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Cynhelir y digwyddiad ar Ddiwrnod Santes Elen (22/5/22) gan bod y ffordd wedi cael ei henwi ar ei hôl.

“Mae ein siapter lleol yn Aberaeron o urdd Rose Croix sef “Knights of the Pelican and Eagle” wedi ei enwi yn Siapter Sarn Helen, a gan ein bod ni'n uniaethu â'r ffordd eiconig hon (heol neu sarn), credwn ei bod yn lleoliad ardderchog ar gyfer hamdden ac er mwyn cydnabod ei hynafiaeth. Rydym yn gobeithio y bydd beicwyr yn gweld yr her fel cyfle i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Ni all unrhyw un ddarogan pryd na ble y bydd damweiniau yn digwydd ac efallai bydd rhai ohonom angen cymorth meddygol brys, yn arbennig yng nghefn gwlad Cymru.”

Dywedodd Helen Pruett, Swyddog Codi Arian Cymunedol yr Elusen ar gyfer de Powys a de Ceredigion: “Mae'n wych clywed am rywun a oedd angen help yr Elusen yn codi arian ar ei chyfer. Mae Nicolas ac aelodau Sarn Helen wedi gweithio'n ddiflino i drefnu'r digwyddiad hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn. Pob lwc i bob un sy'n cymryd rhan a diolch i chi.”

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: [email protected]