Mae beiciwr mynydd brwd, sy'n dweud bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi achub ei fywyd, yn gwisgo ei esgidiau rhedeg er mwyn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd fis nesaf. 

Bydd Jonathan Bainbridge yn cystadlu yn y ras 13.1 milltir ddydd Sul, 1 Hydref i godi arian i'r Elusen a wnaeth ei gludo i'r ysbyty ar ôl iddo ddisgyn oddi ar ei feic a glanio ar garreg. Nid yn unig iddo golli ei ddannedd ond dioddefodd anafiadau i'w wyneb, torrodd ei ên ac roedd hefyd yn hypothermig.

Roedd Jonathan, 44 oed, wedi bod yn gwersylla â'i ffrindiau yn Nant Peris yng Ngogledd Cymru am benwythnos o feicio mynydd ac aethant i Goed y Brenin am y diwrnod i gwblhau llwybrau Red Bull ac MBR.

Ar ôl cinio, penderfynodd ei ffrindiau eu bod wedi cael digon o feicio am y diwrnod, felly aeth Jonathan allan ar ben ei hun ond yn anffodus daeth i ffwrdd o'i feic ar gyflymder uchel.

Roedd angen chwe pherson i gario Jonathan i lawr y llwybr un trac ar fwrdd asgwrn cefn i gae pêl-droed lle roedd Ambiwlans Awyr Cymru yn aros i'w gludo i'r ysbyty.

Dywedodd Jonathan: “Ar y pryd, rwy'n cofio fy mod i'n beicio'n well ac yn mwynhau fy hun fwy nag erioed.Tua hanner ffordd o amgylch y llwybr, cyrhaeddais ran ag un trac i lawr o'r enw 'False Teeth' yn eironig, ac rwy'n cofio dod ar draws cwymp yn annisgwyl ar gyflymder uchel.

“Roedd fy mhwysau yn llawer rhy bell ymlaen ac wrth i mi hedfan dros y cwymp, glaniais ar fy olwyn flaen. Doeddwn i ddim yn gallu rheoli'r beic am fod fy mhwysau yn rhy bell ymlaen ac es i dros y beic gan lanio ar fy ngên ar garreg.

“Rwy'n cofio cropian i ochr y llwybr lle daeth dau feiciwr arall a oedd yn dod i lawr y llwybr ar fy ôl o hyd i mi, rwy'n credu mai gŵr a gwraig oeddent ac reoddent yn fferyllwyr. Wrth i mi orwedd yno, gorweddodd un ohonynt o'm blaen ac un ohonynt y tu ôl i mi, yn fy nghofleidio er mwyn fy nghadw'n gynnes. Aeth beiciwr arall a oedd yn pasio heibio i'r ganolfan ymwelwyr i gael cymorth am nad oedd gan unrhyw un signal ffôn.

“Roeddwn i yn yr ysbyty dros nos cyn mynd adref. Wrth i'r chwydd yn fy ngheg wella dros yr wythnosau dilynol, dechreuais deimlo rhywbeth miniog o dan fy nhafod. Daeth i'r amlwg bod gen i dorasgwrn agored a oedd angen llawdriniaeth.

“Bu'n rhaid cau fy ngên â weiren a doeddwn i ddim yn gallu bwyta bwyd solet, felly dysgais sut i hylifo fy mhrydau. Cymerodd fisoedd o ffiisiotherapi ac aciwbigo ar fy ngên, yn ogystal â llawer o deithiau at y deintydd i atgyweirio fy nannedd cyn i mi fod yn hollol iach.”

Dywedodd Jonathan, Uwch-ymgynghorydd Ffactorau Dynol, sy'n gweithio ar ddylunio dyfeisiau meddygol newydd, nad yw wedi anghofio am y gofal eithriadol a gafodd gan Ambiwlans Awyr Cymru a'i fod wedi cefnogi'r Elusen ers ei ddamwain yn 2008.  

Ar ôl ei ddamwain, tanysgrifiodd y tad i ddau blentyn, sy'n byw yn Fairfield ger Letchworth Garden City, Swydd Bedford i loteri wythnosol Ambiwlans Awyr Cymru gyda'r bwriad o roi ei enillion yn ôl i'r Elusen pe byddai'n ennill.

Eleni, heriodd ei hun i redeg Hanner Marathon Caerdydd er budd yr Elusen ar ôl gweld hysbyseb ar-lein. 

Dywedodd: “Dydw i ddim wedi ennill y loteri eto, ond gwelais hysbyseb ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a chefais fy ysbrydoli i herio fy hun er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

“Nes i mi ddechrau hyfforddi, doeddwn i erioed wedi rhedeg mewn gwirionedd, oni bai am geisio cwblhau rhaglen Couch to 5k y GIG sawl gwaith. Ers i mi benderfynu rhedeg yr hanner marathon mae wedi newid fy marn ar redeg ac rwyf bellach wir yn ei fwynhau. Mae wedi bod yn wych o safbwynt fy iechyd meddwl a chorfforol. Efallai fod hynny am fy mod nawr yn rhedeg â phwrpas i gyflawni nod rwy'n credu ynddo.

“Mae wedi bod yn eithaf anodd gwneud amser i hyfforddi, gyda dau blentyn bach a theithio i'r gwaith, ond gydag ychydig o gynllunio a llawer o foreau cynnar, rwyf wedi llwyddo i ddilyn rhaglen hyfforddi 13 wythnos Garmin.”

Bydd Charlotte, gwraig Jonathan a'u plant Lucy, sy'n saith oed a Tom sy'n bum oed yn ei gefnogi ar hyd y ffordd a dywedodd y bydd croesi'r llinell yn rhoi ymdeimlad o falchder a boddhad personol iddo. 

Dywedodd: “Mae wedi golygu llawer o waith caled a dyfalbarhad dros y blynyddoedd i gyrraedd y pwynt lle gallaf redeg yn gymharol rydd o anafiadau. Rwy'n bell o fod yn athletwr, ac felly os galla' i fynd o rywun sy'n ei chael yn anodd rhedeg am 30 eiliad i rywun sy'n rhedeg hanner marathon, gall unrhyw un ei wneud. Mae fy mhlant yn gyffrous i weld 'dadi' yn rhedeg a byddan nhw yno i'm cefnogi, sy'n meddwl y byd i mi.

“Mae fy nyled yn fawr i Ambiwlans Awyr Cymru, mewn rhai ffyrdd, y ddamwain oedd un o'r pethau gorau a ddigwyddodd i mi. Beicio mynydd oedd fy mywyd ar un adeg, ond ar ôl y ddamwain sylweddolais fod bywyd yn fyr.

“Ar ôl fy namwain cefais fy ysgogi i wneud penderfyniadau roeddwn wedi osgoi eu gwneud o'r blaen am fy mod i'n rhy ofnus i'w gwneud. Fe wnes i adael fy swydd a beicio o amgylch Seland Newydd a rhoi amser i bethau eraill yn fy mywyd heblaw am feicio mynydd ac yn y pen draw, priodais fy ngwraig.

“Rwyf mor falch bod Ambiwlans Awyr Cymru ac ambiwlansys awyr eraill yn bodoli ac yn gallu cynnig eu gwasanaeth pryd bynnag a lle bynnag fo'i angen. Diolch i dalent a gofal eithriadol y meddygon, y GIG arbennig, caredigrwydd dieithriaid a'm teulu a ffrindiau, roeddwn wedi gallu ymadfer a pharhau i fwynhau bywyd a beicio. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt.”

I gefnogi Jonathan ewch i'w dudalen codi arian Just Giving yma