Ar ôl bod angen cymorth Ambiwlans Awyr Cymru, mae Kieran Day yn rhoi yn ôl i’r gwasanaeth a achubodd ei fywyd.

Roedd Kieran Day, a wasanaethodd yn y Gatrawd Barasiwt am 26 mlynedd bob amser wedi bod yn ffit ac yn iach. Pan oedd yng nghefn gwlad yng Nghymru, cafodd ei sathru gan wartheg mewn cae dan niwl, a chafodd anafiadau a beryglodd ei fywyd.

Cafodd y beiciwr brwd ddwy ysgyfaint wedi ymgwympo, torrodd 10 o asennau, cafodd dri thoriad i'w sternwm, a rhwyg yn ei afu. 

Oherwydd maint ei anafiadau, anfonwyd Ambiwlans Awyr Cymru a rhoddwyd ymyriadau gofal critigol yn y fan a’r lle, ymyriadau a fyddai fel arfer ond ar gael mewn ysbyty.

Dywedodd Kieran: “I ddechrau, roedd meddyg teulu lleol a pharafeddygon yn bresennol a chynhaliwyd gweithdrefn frys i ail-chwythu fy ysgyfaint. Yna ymunodd criw Ambiwlans Awyr Cymru â nhw gyda'r hylifau achub bywyd yr oedd eu hangen arnaf, ac yn fuan wedyn daeth tîm trawma a oedd wedi’i hedfan o Ysbyty Bangor gan Wylwyr y Glannau EM.

“Ar ôl fy sefydlogi a'm rhoi mewn coma anwythol, cefais fy hedfan i Ysbyty Stoke lle cefais driniaeth bellach a llawdriniaeth helaeth i gynnal fy sternwm â phlatiau titaniwm, a gosodwyd titaniwm yn lle’r rhan fwyaf o’r asennau ar ochr dde fy mrest a’u cynnal.”

Caiff y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y  Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £8 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Roedd Kieran yn feiciwr brwd cyn ei ddamwain ac roedd yn ansicr a fyddai'n gallu reidio beic eto.

Dywedodd: “Pan oeddwn yn gwella, doeddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl y byddwn yn gallu eistedd ar feic eto, heb sôn am reidio un. Ar ôl bod gyda'r ffisio a gwella, rydw i wedi llwyddo i fynd allan i feicio a heblaw am golli rhywfaint o gymhwysedd yr ysgyfaint, rydw i bron yn ôl i normal.”

Ym mis Medi 2022, aeth Kieran i benwythnos Coffáu Arnhem yn yr Iseldiroedd. Fel arwydd o ddiolch i'r gwasanaeth a achubodd ei fywyd, gosododd Kieran yr her iddo'i hun o feicio 330km.

Cychwynnodd o Hoek van Holland i Arnhem ar 15 Medi a chwblhaodd y daith yn ôl ar 18 Medi, gan godi mwy na £2,200 i'r Elusen achub bywyd.

Dywedodd Laura Slate, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu i Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae’n hyfryd clywed am lwyddiant Kieran a’i fod wedi gallu mynd yn ôl ar ei feic ar ôl dioddef anafiadau mor helaeth.

“Rydym yn wirioneddol ddiolchgar ei fod wedi dewis ein cefnogi ar yr her epig hon. Diolch o galon i Kieran a’r rhai a’i cefnogodd.”

Wrth fyfyrio ar yr Elusen, dywedodd Kieran: “Heb sgiliau a phroffesiynoldeb yr holl feddygon a roddodd gymorth i mi a'r ffaith fy mod wedi cael fy nghludo mor gyflym mewn hofrennydd i ganolfan trawma fawr, fyddwn i ddim yma heddiw.”