Gwnaeth tad i ddau gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd fel diolch i'r Elusen a helpodd i achub ei fywyd ar ôl damwain beic mynydd. 

Ymunodd Jonathan Bainbridge â miloedd o redwyr yn y brif ddinas ddydd Sul 1 Hydref i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, yr Elusen a ddaeth i'w helpu wedi iddo ddod oddi ar ei feic ar gyflymder uchel a glanio ar garreg.

Cafodd Jonathan, 44 oed, ei gludo i'r ysbyty.  Ac nid yn unig y collodd ei ddannedd ond dioddefodd anafiadau i'w wyneb, torrodd ei ên ac roedd hefyd yn hypothermig. Roedd angen llawdriniaeth bellach arno wedi iddo gael ei ryddhau o'r ysbyty am fod ganddo dorasgwrn agored yn ei geg, ac roedd angen misoedd o ffisiotherapi arno ac aciwbigiad ar ei ên. Roedd angen triniaeth ddeintyddol helaeth arno hefyd cyn iddo wella'n llwyr.

Dywedodd yr Uwch-ymgynghorydd Ffactorau Dynol, sy'n gweithio ar ddylunio dyfeisiau meddygol newydd, nad yw wedi anghofio am y gofal eithriadol a gafodd gan Ambiwlans Awyr Cymru a'i fod wedi cefnogi'r Elusen ers ei ddamwain yn 2008.  

Eleni, heriodd ei hun i redeg Hanner Marathon Caerdydd er budd yr Elusen a llwyddodd i groesi'r llinell derfyn mewn 2 awr a phedair munud er nad oedd erioed wedi rhedeg hanner marathon o'r blaen. 

Dywedodd Jonathan, sy'n byw yn Fairfield ger Letchworth Garden City, Swydd Bedford: “Nes i mi ddechrau hyfforddi, doeddwn i erioed wedi rhedeg mewn gwirionedd, oni bai am geisio cwblhau rhaglen Couch to 5k y GIG sawl gwaith.

“Roedd cydbwyso hyfforddiant â bywyd teuluol, gofal plant a gweithio dramor am bron i dair wythnos cyn y ras yn heriol ar brydiau.Roeddwn i'n tueddu i gwblhau'r mwyafrif o fy nheithiau rhedeg yn gynnar yn y bore cyn i'r plant ddeffro, neu'n hwyr gyda'r nos pan oeddent yn eu gwelyau. 

“Pan oeddwn yn yr UDA, rhedais yng nghanol y nos neu'n gynnar iawn yn y bore, gan fy mod yn aml yn deffro'n gynnar â “jetlag”. Ond cefais weld yr haul yn gwawrio sydd bob amser yn arbennig.

“Doeddwn i erioed wedi rhedeg mwy na 11 milltir yn fy sesiynau hyfforddi, ac roedd hynny yn bythefnos cyn y digwyddiad pan oeddwn i ar daith fusnes yn Dallas, Texas, a brifais fy mhen-glin am fy mod yn rhedeg ar goncrit yr holl amser.”

Dywedodd Jonathan fod awyrgylch y ras yng Nghaerdydd yn ardderchog ac roedd ei wraig Charlotte a'i blant Lucy, saith oed, a Tom, pump oed, yna i'w gefnogi.

Dywedodd: “Cymerodd amser i fy mhlant ddeall nad oedd dadi yn ceisio ennill y ras, o bell ffordd!Mae'n ystrydebol, ond cael cymryd rhan a'r boddhad personol sy'n bwysig i fi, sydd hefyd yn wers bywyd bwysig iddyn nhw ei dysgu.

“Roeddwn i ychydig yn bryderus ar y llinell gychwyn gan fy mod yn teimlo llawer iawn o “jetlag”, a gwnaeth hynny fy ngwneud i'n nerfus am fy lefelau egni. Wedi i mi gychwyn, buan iawn y gwnes i anghofio am y nerfau wrth i'r dorf a fy nod fy ysgogi i. Roedd yr awyrgylch yn anhygoel ac roedd y digwyddiad cyfan yn llawer mwy nag yr oeddwn i'n ei ddisgwyl.

“Llwyddais i gael cefnogaeth gan fy mhlant ar ôl pasio'r llinell gychwyn, ond collais nhw ym milltir 13 gan fod y dorf mor fawr.Roeddent yn gyffrous iawn yn fy ngweld i'n gorffen. Roedd yn wych gweld cymaint o blant allan yn cefnogi'r rhedwyr hefyd, yn gweiddi enwau'r rhedwyr ac yn eu cefnogi a rhoi losin Haribo iddynt!

“Roeddwn i'n hoff o'r daith, ac roedd yn ffordd wych o weld rhai o'r atyniadau gan nad ydw i erioed wedi ymweld â Chaerdydd o'r blaen.Penderfynais redeg hanner marathon Caerdydd er mwyn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, ond roedd yn help hefyd bod y cwrs yn wastad yn bennaf, er bod hyd yn oed ychydig o lethr yn teimlo fel mynydd ar ôl naw milltir neu fwy.”

Mae Jonathan wedi codi £1,400 i Ambiwlans Awyr Cymru hyd yn hyn ac mae bellach wedi cofrestru ar gyfer marathon llawn.

Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd arian yn enwedig gan ei fod yn gyfnod anodd yn ariannol i gymaint o bobl. Rwyf hyd yn oed fwy diolchgar i'r bobl sydd wedi llwyddo i roi'n hael i gefnogi'r elusen sydd mor agos at fy nghalon.

“Mae fy nyled yn fawr iawn i Ambiwlans Awyr Cymru. Dydw i ddim yn gweld hwn fel digwyddiad codi arian untro i fi, rwy'n bwriadu parhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru lle mae modd. Diolch i dalent a gofal eithriadol y meddygon, y GIG arbennig, caredigrwydd dieithriaid a'm teulu a ffrindiau, roeddwn wedi gallu ymadfer a pharhau i fwynhau fy mywyd heddiw.”

I gefnogi Jonathan ewch i'w dudalen codi arian Just Giving yma