Mae cyn Faer a Maeres Wrecsam wedi rhoi £9,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl enwebu'r gwasanaeth fel un o'u hachosion elusennol penodedig.

 

Bu'r Cynghorydd Andy Williams, o etholaeth Garden Village ger Wrecsam, yn faer rhwng mis Mai 2018 a 2019.

 

Drwy gydol eu cyfnod yn y swydd gyhoeddus, cododd Andy a'i wraig Bev dros £45,000 ar gyfer achosion elusennol ledled Gogledd Cymru.

 

Dywedodd Andy, wrth siarad am y rheswm dros ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o'i elusennau: "Roedd yn rhaid i mi ddechrau drwy ddewis achosion a oedd yn bwysig i mi yn bersonol. Fel dyn tân lleol ac ymatebwr cyntaf cymunedol yn Garden Village, rwy'n gweithio ochr yn ochr ag Ambiwlans Awyr Cymru yn aml mewn argyfyngau felly gallaf werthfawrogi eu pwysigrwydd.

 

"Mae'r ffaith eu bod yn dibynnu'n llwyr ar gefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru i roi gwasanaeth hofrennydd mor allweddol yn golygu nad oeddwn wedi meddwl ddwywaith cyn eu henwebu fel un o fy achosion elusennol."

 

Yn ei amser hamdden, y tu hwnt i'w waith gyda'r gwasanaethau brys a'i gyfnod mewn swydd gyhoeddus, mae Andy hefyd yn berchennog balch i gi synhwyraidd arbennig iawn, o'r enw Buddi. Ychwanega Andy: "Mae Buddi yn chwarae rhan hanfodol mewn ysbytai lleol ac Unedau Gofal Dwys. Rwy'n mynd â hi i eistedd gyda chleifion sydd ag ofn nodwyddau o bosibl wrth gael profion gwaed, neu i roi ychydig o lawenydd i'r rhai hynny sy'n sâl iawn yn yr ysbyty."

 

Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, cynhaliodd Andy amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys dawns elusennol, sawl digwyddiad bwyd a gwin yn ogystal â chael cefnogaeth gan athletwyr lleol sy'n rhedeg marathonau yn enw elusennau'r Maer. Roedd un digwyddiad o'r fath, a oedd yn cynnwys ocsiwn elusennol, yn boblogaidd iawn gydag un wobr yn cael ei gwerthu am £1,100.

 

Roedd y wobr dan sylw yn cynnwys taith hedfan arbennig i ddau mewn hofrennydd siarter preifat o faes awyr Caernarfon. I ddilyn, roedd pryd o fwyd godidog yng Nghaffi HEMS yr Elusen gyda'r cyfle i gwrdd â chriw'r ambiwlans awyr sydd wedi'u lleoli yn y maes awyr.

 

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Gogledd Cymru: “Diolch o galon i Andy a Bev am eu haelioni anhygoel. Mae'n ysbrydoledig eu bod wedi codi £9,000 ar ein cyfer mewn amser mor fyr. Bydd y swm anhygoel hwn o arian a godwyd yn sicrhau y gallwn barhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf."

 

Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod yn y swydd, dywedodd Andy: "Cafodd Bev a minnau'r cyfle i gwrdd â chymaint o bobl ysbrydoledig ac ymrwymedig dros y deuddeg mis hynny, byddai'n amhosibl sôn amdanynt a diolch iddynt i gyd yn unigol.

 

"Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd a'n helpu i gyrraedd y swm terfynol o dros £45,000 i elusennau lleol. Mae'n gyflawniad arbennig, a hoffwn roi cydnabyddiaeth i'r holl bobl, y sefydliadau a'r grwpiau a oedd wedi ein cefnogi. Diolch i bawb."