Mae pobl Cymru wedi dewis enw ar gyfer hofrennydd Elusennol newydd Ambiwlans Awyr Cymru – ac mae'n un a fydd yn goleuo awyr Cymru.

Mae'r Elusen ar fin cyflwyno hofrennydd newydd yn y Flwyddyn Newydd, felly galwodd ar ei chefnogwyr i helpu i ddewis yr enw cofrestru.

Mae enw cofrestru hofrennydd, yn debyg i rif adnabod cerbyd, yn nodi hofrennydd sifil. Yn y Deyrnas Unedig, mae hofrenyddion sifil yn dechrau gyda'r rhagddodiad ‘G-‘ wedi'i ddilyn gan gyfres o lythrennau.

Mae enwau cofrestru hofrennydd tri hofrennydd presennol Ambiwlans Awyr Cymru i gyd yn eiriau Cymraeg sy'n cynrychioli'r gwasanaeth a ddarperir gan yr Elusen sy'n achub bywydau.

Dros yr wythnos ddiwethaf, cymerodd cefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru ran mewn pleidlais ar-lein, i ddewis eu hoff enw cofrestru o blith rhestr o bum dewis.

Yr enillydd amlwg, gyda 38% o'r bleidlais, oedd G-LOYW, sy'n golygu llachar neu ddisglair. Mae'r canlyniadau llawn fel a ganlyn:

G-LOYW - sy'n golygu llachar/disglair – 38% 

G-WYDN - sy'n golygu cryf/cadarn – 26%

G-IARD - sy'n golygu gwarchodwr – 15%

G-NHDL - talfyriad o Genedl – 12%

G-YRRU - sy'n golygu teithio/anfon – 9%

 

Bydd G-LOYW yn ymuno â'r fflyd bresennol o hofrenyddion model H145, a enwir yn G-WOBR, G-WROL a G-WENU.

Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Ambiwlans Awyr Cymru fod Gama Aviation wedi gwneud cynnig llwyddiannus am y contract saith mlynedd i ddarparu gwasanaethau hedfan i'r ambiwlans awyr yng Nghymru, yn dechrau ar 1 Ionawr 2024.

Mae'r contract, sy'n werth £65 miliwn, yn cynnwys gweithredu a chynnal a chadw fflyd sylfaenol o bedwar hofrennydd Airbus H145. Ar hyn o bryd, mae'r fflyd yn cynnwys tri hofrennydd H145 ac un H135 llai. Pan fydd y contract newydd yn dechrau, caiff yr hofrennydd H135 ei ddisodli gan H145, sy'n sicrhau y bydd fflyd o hofrenyddion datblygedig yn hedfan yn gyson.

O dan ddeddfwriaeth yr Awdurdod Hedfan Sifil, mae'n rhaid i bob hofrennydd gael ei gofrestru. 

Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Caiff ein hofrenyddion eu hariannu gan bobl Cymru, felly roedd yn bwysig ein bod yn cynnwys ein cefnogwyr wrth gofrestru ein hofrennydd newydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y bleidlais.

“Mae'r Gymraeg yr un mor bwysig i ni. Nod ein helusen yw bod wrth wraidd y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan adlewyrchu'r Gymraeg a'i diwylliant.

“Mae dewis G-LOYW yn sicr yn adlewyrchu'r hyn rydym yn ei wneud. Hoffem gredu bod ein gwasanaeth yn cynnig gobaith; a goleuo bywyd rhywun yn ei awr dywyllaf.”