Mae cyfrif cynilo hanesyddol cymdeithas adeiladu'r Monmouthshire wedi codi dros £24,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn ystod 2023, rhoddodd y cyfrif gyfle i ddeiliad y cyfrif roi i elusennau penodol wrth arbed arian.

Yn ogystal â chodi arian i'r Elusen sy'n achub bywydau, cododd y gymdeithas adeiladu £15,340 ar gyfer Sparkle, yr elusen sy'n cefnogi plant sydd ag anableddau a thrafferthion dysgu yn ardal Gwent.

Gweithredodd cyfrif ‘Affinity Instant Savings’ fel cyfrif cynilo safonol, gyda llog yn cael ei dalu i'r cynilwr. Roedd un y cant o'r balans wedyn yn cael ei roi i'r 'partneriaid’ ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Roedd hon yn ffordd wahanol o godi arian i elusen sy'n agos at galonnau'r aelodau.

Er nad yw'r cyfrifon hyn ar werth ar hyn o bryd, gall deiliaid y cyfrifon barhau i dalu i mewn i'r cyfrifon hyn o hyd ac mae'n ffordd arall y mae'r Gymdeithas yn parhau i ymrwymo i helpu ei chydweithwyr, ei haelodau a'i chymunedau i ffynnu.

Dywedodd Gemma Bale, Pennaeth Brand a Chynhyrchion Cymdeithas Adeiladu'r Monmouthshire: “Mae'r cyfrifon hyn wedi bod yn ffordd ardderchog o godi arian i rai sefydliadau elusennol lleol a ledled Cymru. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o gefnogi'r cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt gyda mentrau newydd sy'n cefnogi elusennau a grwpiau lleol, a byddwn yn parhau i ddatblygu cyfleoedd pellach mewn cymunedau lleol.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Dywedodd Laura Coyne, Rheolwr Codi Arian yn Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Gymdeithas Adeiladu'r Monmouthshire am ei chefnogaeth barhaus i Ambiwlans Awyr Cymru. Maent wedi codi dros £24,000 sy'n anhygoel!

“Mae Cyfrif Cynilo ‘Affinity Instant’ yn ffordd wych i aelodau'r cyhoedd gefnogi elusen o'u dewis. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru. Mae pob un ohonoch wedi chwarae eich rhan wrth helpu i Ambiwlans Awyr Cymru fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf. Bydd y rhodd hon yn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Diolch yn fawr iawn i bawb am helpu i achub bywydau.”